Croeso cynnes iawn yn ôl i Ogledd Orllewin Cymru! Rydym yn falch iawn o rannu gyda chi fod (bron pob un) aelodau Snowdonia 360 bellach ar agor ac yn gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth COVID-19. Mae darganfod llwybr 360Eryri yn uchel ar lawer o restrau ‘to do’, ac felly er mwyn eich helpu ar hyd y ffordd rydym wedi nodi pa gyngor teithio y mae angen i chi ei wybod cyn i chi wneud eich taith ar hyd y llwybr 360 milltir.

DARPARU.

Cynlluniwch o flaen llaw- rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd yr amser cyn i chi adael cartref i wneud eich ymchwil a mapio i ble’r ydych chi’n mynd, y ffordd orau i gyrraedd yno, a’r hyn y gellir ei weld ac ymweld ag ef ar hyd y ffordd.

Cyn trafeilio ar hyd 360Eryri, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu unrhyw weithgareddau rydych chi’n bwriadu eu gwneud ymlaen llaw, sicrhewch eich bod chi’n ymweld â’u gwefannau neu’n cysytlltu gyda nhw cyn i chi gyrraedd i warantu lle.

Gweler dadansoddiad o ba rai o’n hatyniadau, darparwyr llety, bwytai a manwerthwyr sydd ar agor a beth sydd ar gael ar hyn o bryd i archebu yma.

PARCIO.

Os ydych chi’n teithio ar hyd yr 360 Eryri mewn car, byddwch yn ymwybodol bod lleoedd parcio ceir yn gyfyngedig yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rhennir diweddariadau rheolaidd ar leoedd parcio ceir ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri Helpwch ni i gefnogi ein Parc Cenedlaethol trwy ddilyn eu canllawiau:

  • Byddwch yn ddiogel – Cadwch at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol pob amser. Cadwch bellter diogel rhyngthoch chi/eich grŵp ac eraill. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw fannau cyfyng a golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd unrhyw arwynebion caled gan gynnwys peiriannau talu ac arddangos.
  • Troediwch yn ysgafn– Byddwch yn barod i newid eich cyrchfan. Paratowch fwy nag un opsiwn rhag ofn i chi gyrraedd ardal sy’n prysuro.
  • Byddwch yn garedig– Parciwch yn y mannau priodol. Peidiwch a pharcio ar ochr y ffordd neu ar draws unrhyw fynediad, gall achosi problemau i ffermwyr, cymunedau neu’r gwasanaethau brys.


Gwybodaeth ddefnyddiol
– Cymerwch i ystyriaeth bod llefydd poblogaidd fel maes parcio Pen y Pass yn aml yn llawn yn gynnar iawn yn y boreau. Gwnewch eich ymchwil trwy edrych ar opsiynau eraill megis defnyddio maes parcio Nant Peris neu ddefnyddio’r gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael.

TEITHIO GWYRDD.

Mae cymaint o ffyrdd i ddarganfod 360Eryri, boed hynny mewn car, modur cartref, beic neu droed. Rydym yn annog ein hymwelwyr i ddefnyddio dulliau cludiant cynaliadwy, dyma rai dolenni defnyddiol i’ch helpu i wneud eich taith mor ‘wyrdd’ â phosibl-

  • Teithio ar droed ar hyd ein llwybr arfordirol hardd mwy o wybodaeth yma
  • Darganfyddwch ble mae’r llwybrau beicio lleol o amgylch Gogledd Orllewin Cymru yma
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael fel Sherpa’r Wyddfa i Pen y Pass, mae’r amserlenni llawn i’w gweld ar wefan cyngor Gwynedd. Gellir dod o hyd i ragor o gyngor a map llwybr gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rhyngweithiol yma. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus hefyd trwy gysylltu â Traveline Cymru.
  • Os ydych chi’n teithio mewn car trydan, darganfyddwch y pwyntiau gwefru trydan agosaf yma

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!

Er mwyn sicrhau eich bod yn darganfod Snowdonia360 yn ddiogel, darllenwch ein cod ymddygiad COVID-19
Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1