Croeso i Eryri Snowdonia 360

Golygfeydd godidog, profiadau gwych ac unigryw, llefydd i aros, bwyta a siopa ar hyd llwybr cylchol 360 milltir i dwristiaid. Dim ond ychydig oriau i ffwrdd o’r rhan fwyaf o brif ganolfannau poblogaeth y Deyrnas Unedig, gyda chysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd a bysiau moethus rhagorol…rydyn ni’n nes nag y byddech chi’n meddwl.

Cyrraedd yma

Ar drên

Bydd llawer o wasanaethau uniongyrchol – gan gynnwys Trenau Virgin o Lundain i Fangor, yn dod â chi i gyrchfannau poblogaidd yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn sydd ar lwybr Eryri Snowdonia 360.

Ymholiadau National Rail
03457 48 49 50
Trafnidiaeth Cymru

Mewn Car

Dyma rai mannau ymuno enghreifftiol ag Eryri Snowdonia 360:

  • Bae Colwyn – yr A55 oddi ar yr M56, M6 Llundain
  • Betws-y-Coed – yr A5 oddi ar yr M54, M6 Llundain
  • Y Bala – A494, A5 oddi ar yr M54, M6 Llundain
  • Dolgellau – yr A470 o Gaerdydd; yr A470 a’r A458, A5 oddi ar yr M54, M6 Llundain
  • Machynlleth – yr A489, A470 o Gaerdydd; ar drên o Birmingham

Ar Awyren

Ein meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw Maes Awyr John Lennon yn Lerpwl, Maes Awyr Manceinion a Maes Awyr Birmingham. Mae trosglwyddiadau’n cymryd llai na 2 awr.

Ar y Môr

Mae Irish Ferries a Stena Line yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd a chyflym i Gaergybi o Ddulyn sy’n cymryd cyn lleied â 2 awr. Ar gyfer rhan ddeheuol Eryri 360, mae gwasanaethau fferi i Abergwaun a Doc Penfro yn ddewis da.

Irish Ferries
08717 300 400
Stena Line
08447 707 070

Teithio o gwmpas yr ardal gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Traveline Cymru

Print mini map

Cod ymddygiad

Rhywfaint o gyngor wrth i chi deithio ar hyd eich ffordd.

  • Gyrrwch yn gyfrifol a chadwch at reolau’r ffordd fawr a’r cyfyngiadau cyflymder.
  • Dewch o hyd i fannau addas i stopio a thynnu lluniau. Peidiwch â pharcio ar ymylon y ffordd na rhwystro giatiau a mynedfeydd.
  • Cadwch olwg, arafwch a rhowch ddigon o le i gerddwyr, ceffylau a beicwyr a pheidiwch â chanu eich corn na refio eich injan wrth basio.
  • Rhaid i garafanau, faniau gwersylla a chartrefi modur ddefnyddio safleoedd gwersylla a pheidio â pharcio dros nos ar ochr y ffordd nac mewn meysydd parcio. Rhaid cael gwared ar wastraff cartrefi modur mewn safleoedd dynodedig neu gartref.
  • Cadwch Eryri Snowdonia 360 yn hardd a defnyddiwch finiau ailgylchu neu ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.
  • Cadwch gŵn ar dennyn bob amser yng nghyffiniau da byw a lle mae cyfyngiadau lleol ar waith i atal tarfu ar fywyd gwyllt. Talwch sylw i hysbysiadau a arddangosir ger mynedfeydd i gefn gwlad a thraethau.
  • Rhaid i berchnogion cŵn fod yn ymwybodol o’r risgiau iechyd sylweddol a achosir gan gŵn i anifeiliaid sy’n pori. Rhaid i chi bob amser glirio ar ôl eich ci, h.y. rhoi’r baw mewn bag, glanhau ar eich ôl a chael gwared ar y baw mewn ffordd briodol (a pheidio â’i adael mewn bagiau ar lwybrau troed nac ar ffyrdd eraill).

AWGRYMIADAU A DOLENNI DEFNYDDIOL

Cynlluniwch eich taith a threfnwch lety cyn cychwyn.

Gwiriwch amseroedd agor atyniadau cyn i chi gychwyn ar eich taith.

Cefnogwch waith Cymdeithas Eryri drwy ddod yn aelod, gwirfoddoli neu roi arian yn www.snowdonia-society.org.uk.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1