CYFLWYNIAD

Yn y Telerau ac Amodau hyn, mae’r geiriau ‘ni’, ‘ein’, “Attractions of Snowdonia” neu “Eryri 360” i gyd yn cyfeirio at Attractions of Snowdonia.

Mae’r geiriau ‘chi’ neu ‘eich’ yn cyfeirio at unrhyw un sy’n defnyddio neu’n defnyddio neu’n mynd at wefan www.snowdonia360.com, y Cyswllt a Enwir ar gyfer Aelodaeth Busnes, neu Ddeiliaid Cofrestredig Tocyn Eryri.

Mae’r Telerau ac Amodau a’r Dogfennau Cysylltiedig yn nodi’r telerau defnyddio rydych chi’n cytuno â nhw wrth ddefnyddio a mynd at y wefan a’r gwasanaethau a gynigir gennym.

Mae’n bosibl y byddwn ni’n newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg a heb rybudd. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r telerau defnyddio presennol drwy ailedrych ar y tudalennau hyn.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n cadarnhau eich bod chi’n derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod chi’n cytuno i gydymffurfio â nhw.

Dogfennau Cysylltiedig

Mae ein Datganiad Preifatrwydd yn nodi pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu a pham, a sut byddwn ni’n prosesu unrhyw ddata rydyn ni’n ei gasglu gennych chi, neu y byddwch chi’n ei ddarparu i ni.

Mae ein Polisi Cwcis yn nodi pam rydyn ni’n defnyddio cwcis a dadansoddiadau ar ein gwefan a sut gallwch chi analluogi defnyddio rhai cwcis.

Mae Ymwadiad ein Gwefan yn egluro presenoldeb cynnwys trydydd parti a dolenni i wefannau trydydd parti ar ein gwefan, ac nad ydyn ni’n gwarantu cywirdeb a chyflawnrwydd unrhyw gynnwys ar ein gwefan na gwefannau trydydd parti. Nid ydyn ni ychwaith yn gwarantu argaeledd na hygyrchedd gwefan Eryri 360 nac unrhyw wefan trydydd parti.

MEWNGOFNODI AELOD BUSNES

Os mai chi yw’r Prif Gyswllt ar gyfer Aelod Busnes, byddwch yn cael enw defnyddiwr a chyfrinair mewngofnodi ar gyfer fersiwn bwrdd gwaith gwefan Eryri 360, lle gellir rhoi gwybod am unrhyw newid angenrheidiol i gofnod eich busnes.

Chi sy’n gyfrifol am gadw eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair yn ddiogel. Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod rhywun ar wahân i chi yn gwybod eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith.

Os oes Cyswllt Allweddol newydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni roi manylion mewngofnodi newydd.

TELERAU AC AMODAU TOCYN ERYRI

Cerdyn Disgownt Ymwelwyr yw Tocyn Eryri a ddarperir gan gwmni Attractions of Snowdonia, gan roi disgownt mewn atyniadau sy’n cymryd rhan, bwytai, darparwyr llety, siopau a gwasanaethau eraill i’r Deiliad Cofrestredig, sydd wedi llofnodi cefn y cerdyn.
Mae’n rhaid i chi fod dros 18 oed i brynu a bod yn Ddeiliad Cofrestredig Tocyn Eryri, ac mae’n rhaid i chi lofnodi’r cerdyn ar y cefn iddo fod yn ddilys.

Nid oes unrhyw werth ariannol i Docyn Eryri, ni ellir ei drosglwyddo ac nid oes modd ei gyfnewid na’i roi yn anrheg i unigolyn arall.

Wrth gofrestru ar gyfer eich Tocyn Eryri, rydych chi’n derbyn y bydd eich Manylion Personol (enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost) yn cael eu cofnodi a’u cadw’n ddiogel yn ein cronfa ddata. (Gweler ein Datganiad Preifatrwydd am wybodaeth ynghylch sut a pham rydyn ni’n casglu, yn cadw ac yn prosesu eich data personol).

I gael Tocyn Eryri, gallwch naill ai:

  • Cofrestru ar-lein yn www.snowdonia360.com AM DDIM a chael e-bost ‘bownsio’n ôl’ i gadarnhau eich cofrestriad. Dangoswch yr e-bost cadarnhau i ddesg flaen eich dewis o fusnes i gasglu eich Tocyn Eryri y gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n ymweld â’r busnes y tro nesaf.
  • Prynwch ar-lein yn www.snowdonia360.com am £5 yn unig ac fe wnawn ni bostio eich Tocyn Eryri i chi i’w ddefnyddio ar unwaith mewn busnesau sy’n cymryd rhan.
  • Prynwch mewn Canolfan groeso am £5 yn unig a gallwch fwynhau’r disgowntiau at unwaith mewn busnesau sy’n cymryd rhan.

Gellir defnyddio pob Tocyn Eryri i hawlio disgownt ar gyfer hyd at 4 o bobl ar bob ymweliad â phob atyniad sy’n rhan o’r cynllun, neu ar unrhyw bryniant gan y Deiliad Cofrestredig mewn busnes sy’n cymryd rhan.

Gellir cyflwyno Tocyn Eryri lle bynnag rydych chi’n gweld ei symbol wrth ymyl enw’r cwmni ar wefan Eryri 360, ein map wedi ei argraffu neu wedi ei arddangos ar safle busnes sy’n cymryd rhan.

Mae disgowntiau Tocyn Eryri yn ôl disgresiwn y busnes a gellir eu tynnu’n ôl neu eu newid ar unrhyw adeg a heb rybudd.

Dim ond ar ddyddiad ac amser y prynwyd yr eitemau mae disgowntiau Tocyn Eryri ar gael, ac ni roddir disgownt os cyflwynir y cerdyn ar ddyddiad ac amser diweddarach.

Nid oes modd defnyddio Tocyn Eryri gydag unrhyw gynnig arall.

Ni roddir unrhyw ad-daliad ar Docyn Eryri os nad fydd atyniad neu fusnes yn agored am unrhyw reswm neu os nad yw’n hygyrch mewn unrhyw ffordd pan fyddwch yn ymweld.

Mae pob Tocyn Eryri yn ddilys am flwyddyn galendr gyfan o’r dyddiad y rhoddir y tocyn.

Ni ellir cynnig unrhyw arian neu ad-daliad yn lle cardiau sydd ar goll neu wedi eu dwyn.

Mae Tocyn Eryri yn parhau i fod yn eiddo i “Attractions of Snowdonia Ltd” a rhaid ei ildio ar gais.

Cyflawnir yr holl weithgareddau gan ddefnyddio Tocyn Eryri yn wirfoddol ac ar eich menter eich hun. Nid yw Attractions of Snowdonia yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am gyflwr yr atyniadau na’r lleoliadau na gweithredoedd trydydd parti neu esgeulustod mewn unrhyw atyniad, lleoliad, llety, lle bwyta neu ddarparwr gwasanaeth arall.

Drwy brynu a llofnodi eich Tocyn Eryri, rydych chi’n cytuno i gadw at ei Delerau ac Amodau.

GWADIAD CYFFREDINOL

Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd am gostau, colledion, treuliau, colli cyfleoedd, iawndal, atebolrwydd neu anaf sy’n deillio o ddefnyddio ein gwefan neu sy’n gysylltiedig â gwefan Eryri 360, Tocyn Eryri 360 neu fap wedi ei argraffu Eryri 360 mewn unrhyw ffordd.

Nid ydyn ni’n gyfrifol am unrhyw wall, diffyg nac anghywirdeb yn y cynnwys, unrhyw gamddehongli nac unrhyw golled, siom, esgeulustod neu ddifrod a achosir gan ddibynnu ar y cynnwys ar wefan Eryri 360, cynnwys trydydd parti, gwefannau trydydd parti neu fap wedi ei argraffu Eryri 360.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw fethiant neu fethiant honedig wrth gyflenwi gwasanaethau y cyfeirir atyn nhw ar wefan Eryri 360, neu yn achos methdaliad, diddymu neu derfynu masnachu unrhyw fusnes a restrir ar ein gwefan neu yn y map wedi ei argraffu.

HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL

Mae’r wybodaeth sy’n ymddangos ar wefan Eryri 360 a’r map printiedig dan Hawlfraint i Attractions of Snowdonia ac ni chaniateir ei atgynhyrchu mewn unrhyw gyfrwng heb drwydded. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am ddefnydd a ganiateir, gan gynnwys ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd, cysylltwch â ni.

Cafodd y Telerau ac Amodau hyn eu diweddaru ddiwethaf ym mis Ionawr 2020.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1