Mae Llwybr twristiaeth Eryri Snowdonia 360 yn rhoi modd i ymwelwyr ddarganfod pethau newydd drwy Gonwy, Ynys Môn a Gwynedd. 360 milltir o olygfeydd godidog, profiadau gwych ac unigryw yn atyniadau gorau gogledd Cymru, ynghyd â llefydd i aros, bwyta, siopa a theithio ar hyd y ffordd.

Eryri Snowdonia 360 yw YR adnodd teithio ar gyfer yr ardal. Cynlluniwch eich taith yn rhwydd – gan wybod eich bod yn mynd i rai o’r llefydd gorau i ymweld â nhw.

O gysgu dan y sêr i westy moethus ymhell o bobman; o dafarnau traddodiadol Cymreig i fwytai bwyd cain; cwmnïau llogi cartrefi symudol, siopau crefftau Cymru a siopau fferm….

O roi’r holl fannau hyn ochr yn ochr â’r atyniadau gorau ar hyd y ffordd – dyma fan perffaith i greu atgofion sy’n para am byth.

Cynlluniwch eich taith yma gan ddefnyddio ein map rhyngweithiol a chrëwch eich amserlenni pwrpasol eich hun neu gadewch i ni eich tywys gyda’n hamserlenni a agymhellir.

Lwytho i lawr ac argraffu ein map a’n llyfryn

Mae Eryri Snowdonia  360 yn cael ei gyflwyno i chi gan Attractions of Snowdonia Ltd. Mae’r cwmni yn gonsortiwm nid-er-elw sy’n cynnwys 29 o fusnesau atyniadau yn yr ardal. Mae Eryri 360 yn cael ei gyllido gan ein hatyniadau.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1