1. CYFLWYNIAD

Mae Eryri 360 yn llwybr i dwristiaid, drwy fap wedi ei argraffu a gwefan ryngweithiol a ddatblygwyd ar gyfer Attractions of Snowdonia. Mae Attractions of Snowdonia wedi ymrwymo i gynnal preifatrwydd a diogelwch eich data personol.

Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn nodi pam a sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio eich data personol. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i chi os ydych chi’n troi at wefan Eryri 360 neu’n defnyddio un o’n gwasanaethau gan gynnwys cynllun Tocyn Eryri, os ydych chi’n Aelod Busnes, os ydych chi’n gwneud cais am swydd neu os ydych chi’n gyflogai neu’n gontractwr i Attractions of Snowdonia.

Caiff y rheolau ar brosesu data personol eu rheoli gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), fel mae’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Ein haddewid i chi yw

  • Cadw eich data personol yn ddiogel
  • Peidio byth â rhannu eich data oni bai eich bod yn cadarnhau y cawn ni wneud hynny
  • Defnyddio eich data i wella ein gwasanaethau i chi
  • Gadael i chi weld, diweddaru a dileu eich data
  • Diweddaru’r datganiad hwn pan fydd unrhyw newid i’r data rydyn ni’n ei gasglu a sut rydyn ni’n ei brosesu

2. DIFFINIADAU

  • Data Personol yw gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn a adnabyddir neu adnabyddadwy, e.e. enw unigolyn, cyfeiriad cartref, rhif yswiriant gwladol, rhif pasbort, dyddiad geni neu gyfeiriad e-bost preifat.
  • Gwrthrych Data yw’r unigolyn y mae ei ddata’n cael ei gasglu a’i brosesu. Yn y datganiad hwn, mae “chi” neu “eich” yn cyfeirio atoch chi fel gwrthrych y data.
  • Mae Data Personol Sensitif yn benodol yn cynnwys data genetig a biometrig, tarddiad hiliol ac ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, data iechyd, aelodaeth o undeb llafur, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol.
  • Mae prosesu yn golygu unrhyw weithred a gyflawnir mewn cysylltiad â data personol e.e. casglu, ail-drefnu, newid, gwaredu neu ddileu.
  • Rheolydd yw un sy’n penderfynu pam a sut y prosesir data personol.
  • Prosesydd sy’n gyfrifol am brosesu data personol ar ran rheolydd.
  • Trydydd Parti yw unrhyw unigolyn neu gorff heblaw gwrthrych y data, y rheolydd neu’r prosesydd sydd wedi ei awdurdodi i brosesu data personol gan y rheolydd data neu’r prosesydd.

3. PWY YDYN NI?

Yn y datganiad hwn, mae’r geiriau ‘ni’, ‘ein’, “Attractions of Snowdonia” neu “Eryri 360” i gyd yn cyfeirio at gwmni Attractions of Snowdonia. Mae Attractions of Snowdonia yn gonsortiwm o 30 o atyniadau i aelodau ac mae’n gwmni nid-er-elw corfforedig yn y Deyrnas Unedig (rhif cofrestru 07620063). Ar hyn o bryd mae ganddo dri o weithwyr ac fe’i rheolir gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol a etholir o blith y 30 aelod.

Mae Attractions of Snowdonia yn rheolydd data sy’n golygu ein bod ni’n penderfynu pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu gennych chi a pham a sut y prosesir y data hynny. Ein Swyddog Diogelu Data a enwir ar gyfer unrhyw ymholiad ynghylch materion data a’r datganiad hwn yw ein Rheolwr Aelodaeth a Marchnata, sydd o few cyrraedd drwy e-bostio jo@snowdonia-attractions.com neu drwy ffonio 01766 810715.

4. PA DDATA PERSONOL Y BYDDWN NI’N EI GASGLU AMDANOCH CHI

Mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu eich: enw llawn, cyfeiriad cartref, cyfeiriad bilio, e-bost personol, rhifau ffôn, oedran, manylion teuluol, manylion ariannol, ffotograffau.

Byddwch yn rhoi’r data i ni pan fyddwch chi’n:

  • gwneud cais am gerdyn disgownt blynyddol Tocyn Eryri ac yn ei brynu
  • ymgeisio a dod yn Aelod Busnes
  • tanysgrifio i’n e-gylchlythyr
  • cyfathrebu â ni’n bersonol, dros y ffôn, drwy e-bost, neges destun, llythyr, neges ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ddefnyddio ffurflen gyswllt ar y wefan
  • cystadlu yn ein cystadlaethau
  • cymryd rhan drwy’r cyfryngau cymdeithasol ar ein sianeli
  • Mynd i ddigwyddiad yn un o leoliadau ein Haelodau
  • gwneud cais am swydd, dod yn gyflogai neu’n gontractwr gyda ni

Yn ogystal, pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan, mae’n bosibl y byddwn ni’n defnyddio ffeiliau log, cwcis a dadansoddiadau digidol (Google) i gasglu’r wybodaeth a ganlyn yn awtomatig yn sgil eich ymweliad:

  • Y cyfeiriad Protocol y Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddiwyd i gysylltu eich dyfais â’r rhyngrwyd, y math o borwr a’i fersiwn, gosodiad y gylchfa amser, mathau o ategion y porwr a’u fersiynau, y llwyfan a’r system weithredu.
  • Gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys sut y daethoch o hyd i’n gwefan, pa dudalennau y gwnaethoch chi ymweld â nhw ac am ba hyd, yr hyn roeddech chi’n chwilio amdano ac i ble’r aethoch chi wedyn o’n gwefan.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn awtomatig yn eich nodi chi fel defnyddiwr unigol ond nid fel unigolyn a enwir. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i ganfod pa mor effeithiol yw ein gwefan a’n gwasanaethau ac i ganfod unrhyw welliant.

Mae rhagor o wybodaeth am cwcis a Google Analytics a sut gallwch chi ddewis peidio â chael cwcis ac analluogi Google Analytics yn ein Polisi Cwcis.

5. BETH RYDYN NI’N EI GASGLU A BETH RYDYN NI’N EI WNEUD GYDA’CH DATA PERSONOL

Byddwn yn defnyddio eich data personol ar seiliau cyfreithlon perthnasol yn unig, yn unol â’r hyn a ganiateir dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), fel mae’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Rydyn ni’n casglu ac yn prosesu data personol gennych chi yn yr amgylchiadau a ganlyn:

Deiliaid Tocyn Eryri

Rydyn ni’n casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad bilio ac anfon er mwyn anfon eich Tocyn Eryri atoch chi.

Rydyn ni’n cadw’r data hwn am 24 mis, ac ar ôl hynny byddwn yn ei ddileu os nad ydych wedi ymgeisio eto am docyn blynyddol newydd.

Os byddwch chi’n prynu eich Tocyn Eryri ar ein gwefan www.snowdonia360.com, yna byddwch yn rhoi manylion credyd neu ddebyd taliadau yn uniongyrchol i’r system taliadau trydydd parti, sef STRIPE a bydd eich manylion yn cael eu trin yn unol â’u trefn taliadau.

Aelod Busnes

Rydyn ni’n casglu eich enw, enw’r cwmni, cyfeiriad, e-bost gwaith, rhifau ffôn cyswllt a gwybodaeth ariannol er mwyn prosesu eich aelodaeth. Cedwir yr wybodaeth hon yn ddiogel ar ein systemau ac fe’i defnyddir i ddarparu’r gwasanaethau i chi fel y nodir yn eich cytundeb aelodaeth.

Bydd aelodaeth a manylion ariannol yn cael eu cadw am saith mlynedd er mwyn bodloni rheoliadau ariannol Cyllid a Thollau EM.

Cylchlythyr electronig

I dderbyn ein cylchlythyr, byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, eich enw cyntaf a’ch cyfenw, ac rydyn ni’n cadw’r rhain mewn cronfa ddata ddiogel.

Rydyn ni’n defnyddio’r cyflenwr trydydd parti Mailchimp i ddosbarthu’r e-gylchlythyr i chi. Drwy gytuno i dderbyn y cylchlythyr, rydych chi’n cytuno y bydd eich data yn cael ei brosesu gan Mailchimp ac yn cytuno â’i Ddatganiad Preifatrwydd o ran delio â data Cysylltiadau: www.mailchimp.com/legal/privacy/#3._Privacy_for_Contacts

Gallwch optio allan o dderbyn ein cylchlythyr unrhyw bryd drwy ddewis Dad-danysgrifio ar unrhyw gylchlythyr a dderbyniwch. Os byddwch chi’n optio allan, byddwn yn cael gwybod a bydd eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar ein cronfa ddata. Eich cyfrifoldeb chi yw dewis peidio â derbyn y cylchlythyr os mai dyna yw eich dymuniad.

Cyfathrebu’n bersonol, dros y ffôn, drwy e-bost, neges destun, llythyr, neges ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ddefnyddio ffurflen gyswllt ar y wefan

Mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn cyswllt er mwyn trafod ac ymateb i’ch ymholiad. Byddwn yn cadw’r manylion hyn am ddim mwy na 12 mis ar ôl i chi gyfathrebu â ni ddiwethaf, ac ar ôl hynny bydd eich manylion yn cael eu dileu am byth.

Ceisiadau cystadlaethau

Pan fyddwch chi’n rhoi cynnig ar gystadleuaeth, fe fyddwn ni fel arfer yn casglu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Gallwch hefyd ddewis cael negeseuon marchnata e-bost yn y dyfodol gennym ni drwy’r e-gylchlythyr. Rydyn ni’n prosesu’r data hwn fel rhan o’n contract gyda chi wrth ddechrau’r cysylltiad rhyngom, ac rydyn ni’n ei gadw am 24 mis ar ôl i’r gystadleuaeth gau. Gallwch optio allan o gael yr E-gylchlythyr ar unrhyw adeg.

Cymryd rhan drwy’r cyfryngau cymdeithasol ar ein sianeli

Er eich diogelwch chi, ni ddylech chi BYTH gynnwys data personol fel eich cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost neu wybodaeth bersonol arall mewn neges ar ein sianeli cymdeithasol gan fod modd i bawb weld eich sylwadau.

Mynychu digwyddiad

Os byddwch chi’n dod i ddigwyddiad, mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i chi am eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt er mwyn anfon gwybodaeth farchnata atoch chi drwy ein e-gylchlythyr.

Ffurf ar ddata personol yw delweddau lle gellir adnabod pobl. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn tynnu eich llun neu eich ffilmio chi mewn digwyddiad, a byddwn yn dweud wrthych chi sut rydyn ni’n bwriadu defnyddio unrhyw ddelwedd yn ein deunydd marchnata. Byddwn bob amser yn ceisio caniatâd ysgrifenedig gan riant neu warcheidwad plentyn dan 13 oed. Os na ddefnyddir delweddau at y diben a fwriadwyd, ac o fewn amserlen resymol, yna fe fyddan nhw’n cael eu dileu am byth.

Gwneud cais am swydd, dod yn gyflogai neu’n gontractwr gyda ni

Er mwyn cydymffurfio â’n cyfrifoldebau a’n cyfrifoldebau cytundebol, statudol a rheoli, rydyn ni’n casglu ac yn prosesu data personol, gan gynnwys data personol ‘sensitif’, gan ymgeiswyr am swyddi, gweithwyr a chontractwyr gyda ni.

Gall data o’r fath gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) wybodaeth am iechyd, tarddiad hiliol neu ethnig, crefydd a chollfarnau troseddol. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn ni’n prosesu data personol neu ddata personol sensitif, heb ganiatâd penodol.

Mae ein cyfrifoldebau cytundebol cyflogaeth yn cynnwys y rhai sy’n codi o’r contract cyflogaeth. Mae’r data a brosesir i fodloni cyfrifoldebau cytundebol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): cyfeiriad post, manylion cyfrif banc, tâl salwch, gwyliau, tâl mamolaeth, pensiwn a chysylltiadau mewn argyfwng.

Ein cyfrifoldebau statudol yw’r rhai a roddir arnom ni fel cyflogwr yn unol â’r gyfraith. Mae’r data sy’n cael ei brosesu i gwrdd â chyfrifoldebau statudol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): treth, yswiriant gwladol, tâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, absenoldeb teuluol, trwyddedau gwaith, monitro cyfle cyfartal.

Er mwyn cwrdd â’r contract cyflogaeth, mae’n rhaid i ni drosglwyddo data personol cyflogai i drydydd partïon – er enghraifft, i ddarparwyr pensiwn a Chyllid a Thollau EM a’r Gyflogres. Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol, mae’n rhaid i ni roi rhywfaint o ddata personol cyflogai i adrannau’r llywodraeth e.e. darparu data cyflog a data treth i Gyllid a Thollau EM.

Bydd data personol ymgeiswyr am swyddi’n cael ei ddileu’n barhaol ar ôl tri mis. Bydd cofnodion cyflogeion a chontractwyr yn cael eu cadw am chwe blynedd o ddiwedd eu cyflogaeth, ac yn cael eu dileu’n barhaol ar ôl hynny.

6. DATGELU A RHANNU EICH DATA PERSONOL

Nid ydyn ni’n gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau eraill ei defnyddio.

Mae modd i ni rannu data personol a gesglir ac a brosesir gennym ni gyda’r canlynol:

  • Cyfarwyddwyr, gweithwyr a chontractwyr Attractions of Snowdonia
  • Cwmnïau trydydd parti lletya yn y cwmwl ar gyfer lletya cronfeydd data a gwefannau
  • Darparwyr cymorth TG i’n rhwydwaith data a’n gwefan
  • Darparwr llwyfan E-gylchlythyr trydydd parti
  • Gwasanaethau casglu taliadau

Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os ydyn ni dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnydd neu bolisi cwcis a chytundebau eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau neu sefydliadau eraill i ddibenion gwarchod rhag twyll.

7. STORIO GWYBODAETH BERSONOL

Lleolir Attractions of Snowdonia yn y Deyrnas Unedig. Mae’r data rydych chi’n ei roi i ni’n uniongyrchol yn cael ei storio mewn canolfannau data Microsoft, sydd i gyd y Deyrnas Unedig.

Mae’n bosibl y bydd data rydych chi’n ei roi mewn systemau trydydd parti drwy ein gwefan, fel y system taliadau STRIPE, yn cael ei gadw y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

8. EICH HAWLIAU A’CH DATA PERSONOL

Oni bai eich bod chi’n cael eich eithrio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), bydd gennych chi’r hawl i:

  • gael gwybod am gasglu a defnyddio eich data personol
  • cael mynediad at eich data personol drwy ofyn am gopi o’r data sydd gennym ni amdanoch chi
  • gofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol sydd gennym neu rydyn ni wedi ei drosglwyddo i drydydd partïon os yw’n anghywir
  • gwneud cais am ddileu eich cyfnod lle nad oes rhaid i ni gadw eich data personol mwyach
  • tynnu caniatâd yn ôl i waith prosesu ar unrhyw adeg, lle mai cydsyniad oedd sail gyfreithlon prosesu eich data personol
  • trosglwyddo data, h.y. i chi gael gafael ar eich data a’i ddefnyddio drwy wneud cais am ei drosglwyddo’n uniongyrchol i reolwr data arall
  • gofyn am gyfyngu ar unrhyw brosesu pellach lle mae anghydfod ynglŷn â chywirdeb neu brosesu eich data personol
  • gwrthwynebu prosesu data personol os yw’n berthnasol, e.e. ar gyfer marchnata uniongyrchol neu ymchwil ystadegol.

9. CAIS AM FYNEDIAD AT DDATA GAN Y TESTUN A CHWYNION

Os ydych chi’n dymuno arfer eich hawliau a gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun, a/neu os oes gennych chi gŵyn i’w gwneud am sut rydyn ni’n delio â’ch data, cysylltwch â’r Rheolwr Aelodaeth a Marchnata: jo@snowdonia-attractions.com.

Gofynnir i chi pa wybodaeth bersonol yr hoffech ei gweld, lle mae’n debygol o gael ei chadw a’r amrediad dyddiadau. Bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi cyn i ni dderbyn y cais. Os byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi, byddwn yn rhoi copi o’r wybodaeth i chi mewn fformat dealladwy ynghyd ag esboniad o’r rheswm dros ei gadw a’i ddefnyddio o fewn mis ar ôl eich cais.

Mae gennych hefyd hawl i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r llinell gymorth 0303 123 113 neu drwy www.ico.org.uk.

10. NEWIDIADAU I’R DATGANIAD PREIFATRWYDD HWN

Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r Datganiad Preifatrwydd hwn pan fydd unrhyw newid i ba ddata personol rydyn ni’n ei gasglu, sut a pham rydyn ni’n defnyddio eich data personol a phan fydd gofynion cyfreithiol newydd. Bydd y fersiwn gyfredol bob amser yn cael ei rhoi ar ein gwefan.

Ysgrifennwyd y datganiad preifatrwydd hwn ym mis Ionawr 2020.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1