Yn yr Ymwadiad, hwn, mae’r geiriau ‘ni’, ‘ein’, “Attractions of Snowdonia” neu “Eryri 360” i gyd yn cyfeirio at gwmni Attractions of Snowdonia. Mae’r geiriau ‘chi’ neu ‘eich’ yn cyfeirio at unrhyw un sy’n defnyddio neu’n mynd at wefan www.snowdonia360.com.

Mae gwefan Eryri 360 yn arddangos gwybodaeth a ddarperir i ni gan drydydd partïon, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) ein Haelodau (yr atyniadau), ein Haelodau Busnes Cyswllt (bwytai, darparwyr llety a siopau), ein Partneriaid (e.e. Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri, Awdurdodau Lleol), mapiau Arolwg Ordnans, Adroddiadau Newyddion, Blogiau, Fideos, a ffynonellau eraill. Rydyn ni’n cyfeirio at yr wybodaeth hon fel Cynnwys Trydydd Parti.

Mae gwefan Eryri 360 hefyd yn cynnwys dolenni i Wefannau Trydydd Parti y gellir eu defnyddio drwy ein gwefan. Bydd pob dolen i wefannau trydydd parti yn agor mewn ffenestr newydd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi’n darllen telerau ac amodau a pholisïau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r gwefannau trydydd parti hyn.

Wrth gael mynediad at wefan Eryri 360 a’i defnyddio, rydych chi’n cytuno nad yw cynnwys trydydd parti o’r fath yn cael ei greu nac yn cael ei gymeradwyo gennym ni, a’n bod ni hefyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti drwy ddolenni oddi ar ein gwefan.

Credir bod yr wybodaeth a ddarperir gennym yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol, ond ni wneir unrhyw warant gennym ni, na darparwyr unrhyw gynnwys neu wefannau trydydd parti, ynghylch ei chywirdeb a’i chyflawnder.

Nid yw cynrychiolaeth unrhyw ffordd neu drac ar fap rhyngweithiol Eryri 360 yn dangos ei fod yn hawl tramwy. Mae’r map rhyngweithiol, y llwybr 360, lleoliad a disgrifiad busnesau a mannau o ddiddordeb ar hyd y llwybr i gyd yn cael eu darparu gan drydydd partïon a chredir eu bod yn gywir.

Gallwn ddiweddaru a newid y cynnwys ar ein gwefan unrhyw bryd. Wrth ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n derbyn y gallai unrhyw ran o’r cynnwys fod yn anghyflawn neu wedi dyddio, ac nad oes rheidrwydd arnom i’w ddiweddaru. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod unrhyw gynnwys yn anghywir, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni gywiro pethau cyn gynted â phosibl.

Nid ydyn ni’n gwarantu y bydd ein gwefan na’n gwefannau trydydd parti cysylltiedig bob amser ar gael i chi. Mae’n bosibl y byddwn yn newid y cyfan neu unrhyw ran o’n gwefan a’i chysylltiadau heb rybudd. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golli cyfleoedd os na fydd ein safle neu unrhyw ran o’n safle ar gael neu’n cael ei newid am unrhyw reswm.

Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd am gostau, colledion, treuliau, colli cyfleoedd, iawndal, atebolrwydd neu anaf sy’n deillio o ddefnyddio ein gwefan neu sy’n gysylltiedig â’r wefan mewn unrhyw ffordd. Nid ydyn ni’n gyfrifol am unrhyw wall, diffyg nac anghywirdeb yn y cynnwys, camddehongli nac unrhyw golled, siom, esgeulustod neu ddifrod a achosir gan ddibynnu ar y cynnwys ar ein gwefan neu wefannau trydydd parti.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw fethiant neu fethiant honedig wrth gyflenwi gwasanaethau y cyfeirir atyn nhw ar ein gwefan, neu yn achos methdaliad, diddymu neu derfynu masnachu unrhyw fusnes a restrir ar ein gwefan.

Cafodd Ymwadiad y Wefan hon ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Ionawr 2020.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1