Tân arni i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru diolch i grant y Loteri Genedlaethol gwerth £3.1 miliwn

Bydd cynlluniau’r rheilffordd yn cynnig “Profiad twristiaeth o ansawdd uchel sy’n dod â budd gwirioneddol i economi Gogledd Cymru”

Mae atyniad twristaidd mwyaf Gogledd Cymru – Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru, yn dathlu ar ôl sicrhau £3.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd y buddsoddiad o £3,144,000 yn rhoi hwb i gynlluniau’r rheilffyrdd i ddenu mwy o ymwelwyr drwy ddarparu “profiad twristiaeth o ansawdd uchel”, a chyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli i gymuned Porthmadog.

Bydd hefyd yn ariannu’r gwaith o adfer a gwarchod adeiladau gan gynnwys Gwaith Boston Lodge sydd yn y Guinness Book of Records fel y ‘gweithdy rheilffordd hynaf mewn gweithrediad parhaus’.

A bydd cefnogwyr yn darparu £900,000 ychwanegol o arian cyfatebol ar gyfer y prosiect tair blynedd a hanner a ddylai, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, helpu i ddenu hyd at 250,000 o ymwelwyr i’r rheilffyrdd bob blwyddyn.

Safle Treftadaeth y Byd UNESCO

Ar eu hanterth, roedd y rheilffyrdd yn ganolbwynt i’r farchnad byd-eang am lechi Cymru ac yn gwasanaethu’r mwynglawdd lechi danddaearol fwyaf yn y byd – chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog.

Heddiw, mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru a ddaeth yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng ngogledd orllewin Cymru ym mis Gorffennaf, yn denu hyd at 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ac mae ei dwy reilffordd – Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru, yn rhannu treftadaeth reilffordd drawiadol gyda Rheilffordd Ffestiniog yn rheilffordd gul hynaf y byd a Rheilffordd Ucheldir Cymru yw rheilffordd dreftadaeth hiraf y DU.

Atyniad o ansawdd uchel o’r radd flaenaf

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y buddsoddiad hwn o £3.1 miliwn yn caniatáu i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru – atyniad gwirioneddol o’r radd flaenaf, o ansawdd uchel, ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i’r gymuned leol a rhoi hwb i economi gogledd orllewin Cymru drwy ddod â 50,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn.

“Yn ogystal â’r manteision economaidd a chyflogaeth niferus o Reilffyrdd Ffestiniog a Chymru, mae’r prosiect hwn sy’n canolbwyntio ar waith Boston Lodge yn enghraifft wych o sut y gall treftadaeth ein helpu i ddeall pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod a sut mae’r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt wedi’u llunio gan y gorffennol drwy ddod â hanes yn fyw.”

Allforio llechi Cymru i bedwar ban y byd

Wedi’i adeiladu rhwng 1833 a 1836, roedd Rheilffordd Ffestiniog yn cario llechi o fwyngloddiau llechi Blaenau Ffestiniog i borthladd ym Mhorthmadog a’u cludo ar draws y byd.

Cariodd Rheilffordd Ffestiniog ei llwyth olaf yn 1946 ac yn 1954 dechreuodd gwirfoddolwyr ddod ag ef a Gwaith Boston Lodge yn ôl yn fyw.

Adferwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru yn y 1990au a chrëwyd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

Rhannu ein straeon gyda chenedlaethau’r dyfodol

Wrth sôn am brosiect Gwaith Boston Lodge, dywedodd Paul Lewin – Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru:

“Rydym yn rheilffordd Gymreig ac mae ein hanes wedi’i gydblethu ers 200 mlynedd gyda’r gymuned leol. Rydym am adeiladu ar y cysylltiadau presennol hynny fel y gall y gymuned leol ymfalchïo yn nhreftadaeth Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru a Boston Lodge a bod yn rhan ohonynt.

“Drwy ein prosiect, rydym am gasglu ein straeon a sicrhau eu bod yn cael eu rhannu â chenedlaethau’r dyfodol a’n bod yn parhau i chwarae ein rhan yn economi a llwyddiant gogledd Cymru.

“Mae ein rheilffordd wedi goroesi drwy addasu a chroesawu technoleg a diolch i’r buddsoddiad hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gwneud hynny eto nawr i sicrhau ein bod yn cynnig profiad twristiaeth o ansawdd uchel sy’n dod â budd gwirioneddol i economi Gogledd Cymru.”

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1