Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi ail-greu Meddygfa eiconig Llithfaen lawr yn y Nant, y Feddygfa lle ganwyd y freuddwyd o brynu ac adfywio’r hen bentref dros hanner can mlynedd yn ôl.

Roedd Hen Feddygfa Llithfaen yn rhan o bractis Dr Carl Clowes, y meddyg ddaeth i’r ardal yn 1970 o`i swydd arbenigol yn Ysbyty Christie, Manceinion i redeg meddygfa Llanaelhaearn ar ei ben ei hun. Roedd ef a’i wraig Dorothi yn benderfynol o fagu eu plant yn siaradwyr Cymraeg. Ond yr hyn a ganfu oedd cymuned yn wynebu problemau gwirioneddol, a theimlodd y dylai rhywbeth gael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa. Roedd chwarel ithfaen cyfagos yn Nhrefor ar fin cau ac roedd Ysgol Llanaelhaearn hefyd dan fygythiad o gael ei chau. Roedd rhaid creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal os oedd hi am oroesi.

Ers i Ddeddf gyntaf yr Iaith Gymraeg ddod i rym yn 1967 roedd galw cynyddol am weithwyr dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus. Roedd y meddyg o’r farn bod angen canolfan breswyl fyddai’n agored drwy gydol y flwyddyn i gynnig cyrsiau Cymraeg i sicrhau hyn.

Wrth i’r ddau syniad asio gyda’i gilydd, ac er bod yr adeiladau yn adfeilion erbyn y 70au, penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn y Nant a fyddai yn creu gwaith ar gyfer pobl leol ac yn rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg.

Wrth edrych yn ôl i’r cyfnod yma, dywedai Dr Clowes “Mae’n anodd credu heddiw mai hanner-can mlynedd yn ôl ‘o’n i’n eistedd yn Y Feddygfa hon yn trafod efo un o’m cleifion, oedd â chysylltiad â’r chwareli, y posibilrwydd o brynu’r ‘Nant’ er budd yr ardal. Cyntefig oedd yr adeilad ond cyffrous oedd y meddylfryd. Roedd dybryd angen gwaith newydd yn yr ardal a pheiriant i hyrwyddo hyder pobl yn y Gymraeg – tybed a fyddai Nant Gwrtheyrn yn adnodd allai gyflawni hyn? Pan wyt yn chwech ar hugain oed, rwyt yn medru ‘symud mynyddoedd’!”

“O fewn y degawd, wedi imi ymadael â’r practis, trosglwyddais y ‘cwt sinc’ i’r egin Ymddiriedolaeth i’w defnyddio fel ei swyddfa gyntaf. Un o’r achlysuron mwya’ difyr yn hanes Y Feddygfa fel swyddfa oedd ymweliad gan Syr Wyn Roberts [Gweinidog Gwladol yn Y Swyddfa Gymreig] a Paddy O’Toole [Gweinidog y Gaeltacht yn Iwerddon]. Y pictiwr o weld Wyn a Paddy, a’u entourage, yn ymlwybro i fyny’r steps – a’u Daimlers estynedig yng nghanol y lôn – yn un i’w drysori, ond roedd Wyn yn benderfynol o rannu ein gweledigaeth efo ‘Paddy’!”

“Mae’r bachau cig sydd i’w weld yn yr ystafell aros yn dyst i’w defnydd yn y gorffennol ond, heddiw, mae’r adeilad yn dechrau ar gyfnod newydd yn ei hanes, yn crynhoi pennod bwysig yn hanes ein gwasanaeth iechyd.”

Bydd Y Feddygfa yn cael ei agor yn swyddogol gan feddyg lleol, Dr Eilir Hughes, a dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn:

”Mae’r Ymddiriedolaeth yn arbennig o falch fod Dr Eilir Hughes wedi cytuno i agor yr Hen Feddygfa’n swyddogol. Mae Dr Hughes yn cyflawni’r un swyddogaeth yn yr ardal ag oedd Dr Clowes yn y blynyddoedd pan oedd yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio. Mae hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw, fel Carl o’i flaen, i godi ymwybyddiaeth o’r berthynas rhwng lles y gymuned ac iechyd unigolion. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei waith ac am y gymwynas hon.”

Bydd agoriad swyddogol y feddygfa yn cael ei gynnal dydd Gwener Medi 3ydd am 11yb.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1