Mae Nant Gwrtheyrn neu “y Nant” fel y’i gelwir ar lafar gwlad, yn le hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae gan Sion Elwyn Hughes, Swyddog Dysgu a Datblygu’r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd, gysylltiad teuluol a gyfrannodd i’r Nant yn ystod cyfnod cynnar y pentref. Darllenwch ymlaen i ddarganfod ei gefndir.

Cadw cysylltiad efo’r Nant gan Sion Elwyn Hughes

Mae Nant Gwrtheyrn yn lle arbennig iawn i nifer — mae’n denu pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd i fwyta, aros, priodi neu gymryd mantais o’r golygfeydd godidog drwy’r flwyddyn. Ond i mi, mae gwybod bod fy nheulu wedi byw, gweithio a siapio cyfnod cynnar y Nant yn gwneud y lle yn fwy arbennig byth i mi.

Ryw bryd yn y ddeunawfed ganrif daeth fy hen, hen daid, Samuel Abner Crump, i fyw i Nant Gwrtheyrn gyda’i wraig Catherine. Bryd hynny, roedd y Nant yn bentref o ddwy res o dai — Mountain View a Sea View — capel ac ysgol, a chymuned fechan ond clós o drigolion.

Cyrhaeddodd Sam Nant Gwrtheyrn yn Sais cwbl ddi-Gymraeg ond, trwy fyw a gweithio yn y gymuned naturiol Gymraeg a Chymreig oedd yno, dysgodd yr iaith yn rhugl, ac erbyn iddo adael yn dilyn colli’i wraig tua 1902, roedd yn gwbl ddwyieithog. Yn dilyn ei golled, cafodd Sam swydd ym Mhenmaenmawr, yn ôl pob tebyg, a symudodd ei blant i fyw at eu hewythr yn nheras arall y Nant, Mountain View, lle’r oedd 11 yn byw dan yr un to! Dychmygwch — 11 yn un o’r tai bach ‘na!

Roedd eu hewythr, Robert Roberts, yn briod â gwraig o Hull yn wreiddiol o’r enw Frances Hind, ac yn rhyfedd ddigon, dysgodd hithau Gymraeg yn rhugl tra’r oedd yn rhan o gymuned glós y Nant. Er nad oedd Nant Gwrtheyrn yn ganolfan ddysgu Cymraeg swyddogol bryd hynny, mae’n amlwg bod dysgu Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o’i hanes, waeth pa mor anffurfiol oedd hynny!

Erbyn hyn, fel rhan o’m swydd fel Swyddog Dysgu a Datblygu’r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd, dw i’n cael y cyfle i gydweithio â’r Nant yn gyson. Enghraifft dda o hyn yw’r rhannu Tip Cymraeg y Mis ar y cyd. Mi wnes i greu Tip Cymraeg y Mis yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr y Cyngor, ond trwy weledigaeth graff swyddogion y Nant, rydan ni bellach yn cydweithio i greu a rhannu’r Tip gyda chynulleidfa ehangach, ac mae’n braf iawn cael mewnbwn gan Mared ac eraill yn y Nant.

Elfen fawr arall o fy nghydweithio ydi anfon dysgwyr y Cyngor ar gyrsiau. Tydi hi byth yn anodd annog dysgwyr i fynd i Nant Gwrtheyrn — does ’na ddim llawer o leoliadau sy’n cynnig gwersi Cymraeg a golygfeydd godidog o dir a môr i gyd am yr un pris! Ond bwysicaf oll wrth gwrs ydi gweld cynnydd y dysgwyr pan maen nhw’n dychwelyd wedi cael profiad gwerth chweil ac wedi byw yn Gymraeg a thrwy’r Gymraeg am wythnos gyfan.

O bryd i’w gilydd dw i’n cael y pleser o groesawu criw i’r Cyngor i ddangos y Gymraeg ar waith yn y gweithle ac mae bob amser yn hyfryd cael criw brwdfrydig sy’n awyddus i ddefnyddio’r sgiliau y maen nhw wedi’i dysgu.

Y llynedd, mi gefais i’r cyfle i gydweithio gyda chriw o ddysgwyr lefel Uwch oedd ar gwrs Cymraeg Gwaith yn y Nant a braf oedd cael y cyfle i gyfuno fy niddordeb mewn cerddoriaeth a dysgu Cymraeg – prin ydi’r cyfleoedd yn fy swydd bob-dydd i dynnu’r piano allan a chyd-ganu, yn rhyfedd iawn…! Y dasg y tro yma oedd yn dysgu’r anthem genedlaethol ac am hwyl gawson ni! Mi faswn i’n taeru mai cantorion proffesiynol oedd o’m blaen erbyn diwedd y noson!

Dw i’n hynod falch o allu cadw cysylltiad efo Nant Gwrtheyrn, a fedra i ddim peidio â meddwl, bob tro’r ydw i’n ymweld â’r lle, tybed fu fy hen daid yn cerdded yn yr union fan yma ryw dro mewn hanes?

Darganfyddwch fwy am ddiwylliant a threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn
Plan My Trip
0 mi1 day
Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1