Mae cymaint i’w wneud yng Ngogledd Cymru, weithiau mae’n anodd penderfynu lle i fynd a beth i’w wneud.
I roi help llaw ac ysbrydoliaeth i chi i gynllunio eich anturiaethau, byddem yn rhannu cyfres o flogiau gydag awgrymiadau ar sut i deithio ar hyd llwybr 360Eryri.
Yn ystod y daith hwn ar hyd yr 360Eryri, fe ymwelon ni â Gypsy Wood (Bontnewydd), Inigo Jones Slate Works (Groeslon), a chael cinio yn Enoch’s Fish & Chips (Cyffordd Llandudno) cyn mynd adref ar hyd yr A55.

 

GYPSY WOOD FAMILY PARK

  • Amser – 10.30am- 2.30pm
  • Sut i gyrraedd y safle – Teithio ar hyd yr A55 a dilyn arwyddion am A487 tuag at Bontnewydd
  • Gwefan – https://gypsywood.co.uk/

Ein lleoliad cyntaf ar gyfer ein hantur oedd Gypsy Wood ym Montnewydd, wedi ei leoli ar gyrion Caernarfon. Mae gan y parc teulu hudolus hwn rywbeth ar gyfer pob oedran. Mae’r parc wedi’i leoli yn y coed felly roedd cyfuno’r awyr agored ac anifeiliaid yn fuddugoliaeth i’n teulu ni!

Roedd yna lawer o bethau i ddiddanu ein bechgyn, y tu ôl i bob cornel, mae rhywbeth newydd a chyffrous. O anifeiliaid fferm, cartiau pwer wedi’u pweru gan bedal, teithiau cerdded ar lan y llyn, trampolinau, caffi, rheilffordd fodel, siop anrhegion – a hyd yn oed taith trên stêm cofiadwy trwy galon y safle.

Y ffefrynnau ymhlith ein teulu ni roedd y go-cartiau (a oedd yn cael eu pweru gan bedal) ac anifeiliaid buarth, gan gynnwys merlod Shetland, Llama’s, Donkeys, a moch ‘Pot-Bellied’.

Aeth trên stêm Woody’s a’r trampolinau i lawr yn dda hefyd – hwn oedd prif weithgaredd y dydd i fy ngŵr! Ar ôl tamad i ginio yn eu caffi eang, aethom draw i’n cyrchfan nesaf.

INIGO JONES SLATE WORKS

 

Wedi’i leoli pum munud yn unig o Gypsy Wood, mae Inigo Jones Slate Works yn dipyn o berl cudd.

Ar yr arwyneb, mae Inigo Jones yn ymddangos fel siop lechi (er ei fod yn gwerthu rhai eitemau llechi gwirioneddol wych), ond crafwch yr wyneb ac fe welwch lawer mwy…

Gan gymryd oddeutu awr, mae taith Gweithdy Inigo Jones yn daith ddiddorol, hunan-dywysedig trwy hanes mwyngloddio llechi yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Mae’r daith yn cynnwys llawer o agweddau ‘ymarferol’ – gallwch roi cynnig ar galigraffeg yn yr hen ysgoldy neu hyd yn oed roi cynnig ar dorri eich darn llechi eich hun fel cofrodd bersonol o’ch ymweliad. I aelodau iau eich grŵp, mae cwis hwyliog i’w gwblhau gyda gwobr lechi ar y diwedd i’r enillwyr.

Ar ôl hawlio ein gwobr llechi o’r siop, roedd hi’n amser swper…

ENOCH’S FISH & CHIPS

  • Amser – 6.00-7.15pm
  • Sut i gyrraedd y safle – Teithiwch ar hyd yr A487 yn ôl i’r A55 tuag at Conwy, ymlaen i’r A546 a dilynwch arwyddion i Gyffordd Llandudno.
  • Gwefan – https://enochs.co.uk/

Ar ôl diwrnod prysur, roeddem ni i gyd yn barod am damaid i’w fwyta a lle’n well na’r Enoch’s Fish & Chips enwog yng Nghyffordd Llandudno.

Cawsom ein cyfarch gan Zara a oedd mor sylwgar, cafodd y bechgyn greonau a thaflen weithgareddau, a oedd yn eu cadw’n brysur nes i’n bwyd gyrraedd.

Er bod y bwyty’n brysur roedd y gwasanaeth yn ardderchog.

Cyrhaeddodd ein bwyd yn boeth ac yn gyflym, ac ni chawsom ein siomi – Penfras a sglodion i mi, Byrgyr cyw iâr ar gyfer y gwr a dognau bach i’r plant. Gwnaeth y ddau fachgen gladdu y bwyd fel y gwnaeth fy ngŵr a minnau! Gallaf ddweud yn onest nad wyf wedi cael gwell pysgod a sglodion yn unman arall ac, ynghyd â gwydraid hyfryd o Pinot Grigio, dyma ddiweddglo perffaith i ddiwrnod allan gwych yng Ngogledd Cymru.

O, ac a wnaethom ni sôn am hufen ia siocled y plant? Bendigedig!

Aethon ni i gyd adref yn teimlo’n flinedig, ond yn hapus ac yn llawn!

 

Am brisiau pob atyniad a chost cinio gweler gwefannau unigol.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1