Os ydych chi’n teithio fel cwpl, grŵp o ffrindiau neu deulu – mae’r daith gymysg hon wedi ei llunio i ddangos diwylliant, treftadaeth a thirwedd rhanbarth gogledd Eryri.

Rydyn ni wedi cynnwys detholiad o’r pethau gorau i’w gwneud a lle i fwyta ac aros yn ardal gogledd Cymru. Gyda gweithgareddau cyffrous, cyfle i weld golygfeydd ac archwilio mannau’n hamddenol, dylai’r amserlen hon gynnig rhywbeth i deulu ag amrywiaeth eang o chwaeth.

Diwrnod 1 – Archwilio

Byddwch yn dechrau eich teithiau Eryri 360 yn Llanberis, wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae’r pentref hwn ar droed yr Wyddfa ac, i deithwyr nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mynyddoedd, mae hefyd yn cynnig Parc Gwledig Padarn ar lan y llyn yn ogystal â digonedd o siopau.

Bore – Yr Wyddfa

Does dim rhaid i chi gael pâr o esgidiau cerdded o reidrwydd ar gyfer cerdded i gopa’r mynydd uchaf yng Nghymru. Ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd godidog ar Reilffordd yr Wyddfa.  Mae’r rheilffordd gul hon yn mynd â chi i’r copa ac yn ôl mewn dwy awr a hanner.

Dewch i fwynhau byrbryd ganol bore neu hyd yn oed ginio, yng nghaffi Rheilffordd yr Wyddfa, neu un o’r llu o lefydd bwyta hyfryd eraill yn Llanberis.

Prynhawn – Castell Caernarfon

Mae tref arfordirol hanesyddol Caernarfon o fewn cyrraedd mewn 15 munud o daith mewn car o Lanberis, ar hyd yr A406. Yma fe welwch gyfoeth o dreftadaeth ac mae ymweliad yn ystod y prynhawn â Chastell trawiadol Caernarfon yn hanfodol.  Mae’r dref gyfan wedi ei hamgylchynu gan furiau cadarn y castell a’r dref gaerog, ac mae hefyd yn digwydd bod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd wedi cael ei adfer yn drawiadol.  Prynhawn hwylus a hudolus o ymweld â siopau a bwytai ar ôl eich diwrnod yn y mynyddoedd.

Bwyd gyda’r nos a llety

Ar ôl diwrnod llawn o grwydro, ni fyddwch eisiau symud yn bell.  Rydyn ni’n argymell cinio traddodiadol yn nhafarn y Black Boy ac aros dros nos o bosibl yn un o’u hystafelloedd niferus llawn cymeriad. Beth am ddewis un hystafelloedd gwely sydd â gwely pedwar postyn. Mae Tafarn y Black Boy yn sefyll o fewn Waliau’r Castell, ac yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 16eg ganrif.

Day 2 – Adrenaline

Ar ôl noson wych o gwsg, byddwch yn barod yn awr am ddiwrnod llawn cyffro.

Bore

Heddiw, byddwch yn mynd ar yr A487/496 am 45 munud i Flaenau Ffestiniog. Yn enwog am ei Chwareli Llechi yn wreiddiol, mae’n gartref i ‘barth gwifren wib’ mwyaf Ewrop a’r Zip World Titan trawiadol! Mwynhewch y golygfeydd godidog o’r chwarel (os gallwch chi agor eich llygaid) yn ystod profiad llawn adrenalin ar y wifren wib.

Cinio

Ar ôl bore ar y wifren wib, byddwch yn barod am damaid i’w fwyta a ‘panad’ o de yn y caffi ar y safle.  Bachwch stiw Cymreig traddodiadol, neu salad ffres, efallai. Mae llawer o brydau hyfryd i ddewis o’u plith yma.

Bwyd gyda’r nos a llety

Y noson hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn aros ar y safle mewn llety glampio gan Llechwedd.  Mae llawer o resymau pam mae’r llety wedi cael gwobr Seren Aur gan Croeso Cymru. Glampio mewn steil gyda golygfeydd godidog pan fyddwch chi’n deffro – beth arall y gellir ei ddweud.  Dewch i fwyta ym mwyty’r Emporium ar y safle a rhoi cynnig ar un o’u pizzas popty cerrig blasus.

Diwrnod 3 – Ymlacio

Diwrnod hamddenol sydd ar y gweill heddiw, felly ar ôl brecwast, ewch am daith fer am 30 munud i bentref enwog Portmeirion ar lan Afon Dwyryd.

Mae’n gartref i bensaernïaeth eiconig, sba, siopau steilus, bwytai, caffis, gerddi egsotig a thraethau tywodlyd, felly mae digon i’ch difyrru yno.

Ar ôl cwpl ddyddiau prysur, byddem yn argymell eich bod chi’n cymryd eich amser yma, yn mynd o gwmpas, yn tynnu lluniau, yn bwyta ac yn siopa.  Wedyn, gallech orffen eich taith gydag arhosiad yn un o’r ddau westy Portmeirion. Mae golygfeydd o’r môr i’w cael yn y ddau westy ac mae bwytai gwych yn y ddau le.

Dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei feddwl

Rydyn ni’n ychwanegu amserlenni newydd yn rheolaidd at wefan Eryri 360. Y syniad y tu ôl i bob un yw rhoi cyfle i gyplau a theuluoedd o bob oed sy’n teithio gyda’i gilydd i gynllunio ymweliad â Pharc Cenedlaethol Eryri a’r ardal gyfagos.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr amserlen hon yn y sylwadau isod neu ar ein tudalen Facebook. Ydych chi wedi rhoi cynnig ar yr amserlen?  Beth weithiodd yn dda a beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?

Diolch i chi am eich adborth.

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1