Cyfartaledd hyd: 3 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Trydan
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae Zip World yn gartref i un deg tri o anturiaethau heb eu tebyg, ar draws tair canolfan ym Metws-y-Coed, Bethesda a Blaenau Ffestiniog. Pa un ai a ydych chi’n chwilio am wefr ar wifren wib gyflymaf y byd, neu’n dyheu am antur i’r teulu ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae gennym rywbeth i bawb.

Yn ein safle ‘Fforest Zip World’ sydd wedi ennill gwobrau, ger Betws-y-Coed, gallwch fynd ar wib drwy’r goedwig ar gerbyd tebyg i ffigyr-êt, neu neidio a llamu ar lwybr rhwydi hiraf Ewrop yn uchel yn y coed. Mae’r safle hwn mewn coetir yn llawn o bethau i oedolion a phlant eu gwneud. Yna, pan fyddwch chi wedi gorffen, fe allwch chi ymlacio a chael rhywbeth i’w fwyta yng Nghaffi Fforest.

Mae tri antur danddaearol yn atyniad ceudyllau llechi Zip World ym Mlaenau Ffestiniog: Bounce Below, lle’r ydych chi’n chwarae ar rwydi tebyg i drampolîn mewn lleoliad tanddaearol anhygoel. A hefyd, y Caverns, sef cwrs antur drwy’r ogofâu. Rydym hefyd yn gartref i’r ‘Deep Mine Tour’, taith o ddarganfod o dan y ddaear, i mewn i bwynt dyfnaf y chwarel ar reilffordd gebl fwyaf serth Prydain. Ar wyneb y ddaear ar y safle hwn mae Titan, parth gwifren wib mwyaf Ewrop i grwpiau.

Yn olaf, mae Zip World Chwarel y Penrhyn, ger Bangor, yn gartref i ‘Velocity 2’ (gwifren wib gyflymaf y byd) a Cherti’r Chwarel – unig drag certi mynydd y Deyrnas Unedig. Nid yw’r naill weithgaredd na’r llall yn addas i’r gwangalon, ond maen nhw’n wych ar gyfer y rhai sy’n chwilio am gyffro. Yn ogystal, yn Chwarel y Penrhyn mae Bwyty Blondin, sy’n cynnig bwydlen sy’n llawn cynhwysion lleol mewn lleoliad unigryw a rhyfeddol.

Our locations

locations on map

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1