Amwynderau

  • Llety
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae’r Wern Fawr yn cynnig pum Bwthyn Hunanarlwyo a Llety Gwely a Brecwast mewn Tŷ Gwledig, a hynny mewn lleoliad arfordirol hyfryd i’r gogledd o Lanbedrog, ar Benrhyn Llŷn. Os ydych chi’n chwilio am leoliad i archwilio’r cyfan sydd gan Benrhyn Llŷn (ardal o harddwch naturiol eithriadol), Abersoch a Phwllheli i’w gynnig, rydyn ni’n lleoliad delfrydol ar gyfer eich amserlen Eryri 360.

Mwynhewch y rhyddid a geir yn ein bythynnod neu beth am gael blas a foethusrwydd y ffermdy. Rydyn ni’n croesawu teuluoedd ac anifeiliaid anwes, ac wedi ein lleoli mewn 75 erw, gyda 54 erw o hynny’n goetir. Rydyn ni o fewn pellter cerdded i lwybrau arfordirol a thraethau godidog, ac yn lle delfrydol i fwynhau rhyfeddodau nosweithiau awyr dywyll gogledd Cymru.

Yn y Wern Fawr rydyn ni’n ymfalchïo ein bod ni’n garbon niwtral. Mae gennym ni ddigon o lefydd parcio ar gyfer cychod ac ôl-gerbydau, ac mae ein brecwastau Cymreig yn enwog. Mae’r holl elfennau hyn wedi cyfuno i’n rhoi ni yn y safle cyntaf ar Trip Advisor ar gyfer llety Gwely a Brecwast a bythynnod yn yr ardal.

Rydyn ni’n berchnogion sydd hefyd yn gofalu am weithredu’r safle, ac yn agored drwy’r flwyddyn, felly cofiwch gysylltu â ni’n uniongyrchol i gael y bargeinion gorau ar llety ym Mhenrhyn Llŷn.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1