Cyfartaledd hyd: 2 awrs 30 munuds
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
Mae’r Sw Fynydd Gymreig yn fyd o ryfeddodau naturiol, ac yn ddiwrnod allan perffaith i deuluoedd sy’n ymweld â Llandudno a Chonwy. Rydym yn sw cadwraeth, gyda thros 140 o rywogaethau yn un o dirweddau mwyaf unigryw unrhyw sw yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni mewn lleoliad uchel iawn uwch ben Bae Colwyn, gyda golygfeydd panoramig anhygoel.
Dewch i weld pa mor uchel y gall Llewpard yr eira ddringo a pha mor dal yw’r Arth Frown Ewrasiaidd mewn gwirionedd! Rydyn ni’n cynnig y cyfle perffaith i ddod yn agos at rai o anifeiliaid mwyaf anarferol ac sydd fwyaf mewn perygl yn y byd.
Yn agored 364 diwrnod y flwyddyn, a gyda chymaint o bethau i’w gwneud a’u gweld, ni ydi’r hoff ddewis perffaith ym mhob tywydd fel rhan o’ch amserlen Eryri 360.