Amwynderau

  • Llety
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae podiau Glampio a Gwersyll Waenfechan rhwng mynyddoedd Eryri ac aber afon Conwy, ac yn agos at Landudno a Chonwy. Pa un ai a ydych chi’n gwpl sy’n chwilio am le i’r enaid gael llonydd yn ein podiau glampio gyda baddonau poeth preifat, neu’n deulu sy’n chwilio am wersyll ddistaw ar gyfer pabell neu gartref modur, mae modd mwynhau eich hun yn Waenfechan drwy gydol y flwyddyn.

Mae Waenfechan ar fferm sy’n cael ei rhedeg gan deulu mewn hafan i fywyd gwyllt, lle mae bwncathod yn hedfan fry ac ystlumod yn hedfan o gwmpas fin nos. Er ein bod ni mewn lleoliad tawel, rydyn ni o fewn cyrraedd hawdd i siopau a thraethau. Mae tref gaerog Conwy, a thref glan môr Fictoraidd Llandudno o fewn cyrraedd mewn 20 munud mewn car. Mae dwy dafarn fawr a dau dŷ bwyta o fewn pum munud mewn car ac mae un ar ddeg o atyniadau gorau i ymwelwyr Eryri 360 o fewn cyrraedd mewn 15 munud mewn car.

Neu, rhowch seibiant i’r car ac ewch am dro i un o’r ddwy dafarn gyfagos am ddiodydd a phrydau bwyd gyda’r nos, neu danio eich barbeciw a mwynhau ein golygfeydd godidog a’r machlud trawiadol dros Fôr Iwerddon.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1