Cyfartaledd hyd: 3 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Parcio

Mae pawb yn wên o glust i glust yn yr Hwylfan, canolfan chwarae dan do fwyaf gogledd Cymru, sy’n addas i’r teulu cyfan. Gyda sawl peth i’w wneud, beth bynnag fo’r tywydd, cofiwch ychwanegu ein hatyniad at eich amserlen Eryri 360 pan fyddwch chi’n ymweld â Chaernarfon.

Mae gennym ni rywbeth i bawb, gyda sleidiau sydyn 25 troedfedd o uchder, pontydd rhaffau, sleidiau tiwb, rhwydi dringo, siglenni rhaffau a thyrrau codwm i’r plant hŷn. Hefyd, pyllau peli, a man chwarae ar wahân i rai dan 5 oed ar gyfer y plant mân.

Gall y teulu cyfan ymuno yn ein gêm Chwaraeon Laser yn y Gofod – her lle’r ydych chi’n ceisio cael y gorau ar eich ffrindiau yn y prawf eithaf o weithredu’n ddirgel, sgiliau, ystwythder ac arbenigedd. Neu fe allwch chi rasio yn erbyn eich gilydd o gwmpas y trac yn ein certi trydan bychan.

Mae gennym ni hefyd rywbeth ar gyfer pobl sy’n chwilio am diwrnod tawelach, hyd yn oed. Ewch am dro drwy Amgueddfa Eglwys Crist ac olrhain hanes yr adeilad sy’n gartref i’r Hwylfan.

Pan fyddwch chi wedi cael hynny y mynnwch chi o hwyl ac y byddwch chi angen ail-lenwi’r tanc, beth am gymryd seibiant yn ein caffi. Gyda seddi dan do a phatio yn yr awyr agored, rydyn ni’n eich gwahodd chi i fwynhau ein dewis o fwyd wedi ei goginio’n ffres a dewis eang o ddiodydd.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1