Cyfartaledd hyd: 2 awrs
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Pawb ar y trên!…ar reilffordd stêm treftadaeth Tal-y-llyn. Diwrnod i’r brenin ac atyniad poblogaidd yn Eryri i’r teulu i gyd. Ni yw’r rheilffordd stêm gadwraeth gyntaf yn y byd, yn cysylltu tref glan môr boblogaidd Tywyn, ar arfordir y Cambrian, gyda godre mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae golygfeydd hyfryd, cerbydau cyfforddus ac injans stêm hanesyddol yn disgwyl amdanoch chi ar ein rheilffordd hyfryd. Rydyn ni o fewn cyrraedd i wasanaethau Rheilffordd y Cambrian o Ganolbarth Lloegr a Llundain, ond byddwn yn eich cludo drwy goetiroedd hynafol, mynyddoedd, rhaeadrau a thros draphont ar daith anhygoel yn ôl mewn amser.
Ymlaciwch a mwynhewch olygfeydd godidog de Eryri, gyda lluniaeth ar gael o’n bwyty yng ngorsaf Glanfa Tywyn a’r caffi yng ngorsaf Abergynolwyn. Mae gorsaf Glanfa Tywyn hefyd yn cynnwys bar â thrwydded lawn, sy’n gweini cwrw a fragwyd yn lleol ac sydd wedi ennill gwobrau.
Rydyn ni’n cynnal sawl digwyddiad drwy gydol y tymor sy’n addas ar gyfer ymwelwyr o bob oed. Cadwch olwg ar ein gwefan am y manylion diweddaraf. Yn ogystal â bod yn hygyrch, rydym hefyd mewn lleoliad delfrydol gerllaw porth deheuol y Parc Cenedlaethol, sy’n fan cychwyn delfrydol i’ch taith ar amserlen Eryri 360.