Cyfartaledd hyd: 2 awrs
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Mae Gwaith Copr Sygun yn atyniad addas ym mhob tywydd, gerllaw Beddgelert yng ngogledd orllewin Parc Cenedlaethol Eryri. Rydyn ni’n cynnig llu o deithiau, arddangosfeydd a gweithgareddau a fydd yn difyrru ac yn ennyn diddordeb ymwelwyr o bob oed mewn diwrnod llawn gwybodaeth.
Bydd y daith i gyrraedd y gwaith copr ynddi ei hunan yn eich syfrdanu, wrth i chi weu eich ffordd heibio godre’r mynyddoedd a llynnoedd a choedwigoedd Eryri. Ar ôl i chi gyrraedd, paratowch i brofi rhyfeddodau ein gwaith copr Fictoraidd hanesyddol.
Mwynhewch daith glyweled hunan-dywys sy’n mynd â chi ar lwybr drwy ganol y mynydd. Byddwch yn dringo drwy siambrau lliwgar mawr i weld ffurfiannau Stalactidau a Stalagmidau godidog. Archwiliwch hen beirianwaith y mwynglawdd a phro+A:Ffwch sut roedd y glowyr a’u teuluoedd yn gweithio ac yn byw. Wedyn, gadewch y mwynglawdd ger copa’r mynydd a rhyfeddu at olygfeydd mwyaf anhygoel o’r cymoedd a’r mynyddoedd cyfagos.
Ar y daith gerdded hamddenol i lawr, gallwch chwilio am aur cyn mwynhau’r golygfeydd a’r llonyddwch gyda chacen a choffi ffres yn ein caffi ar y safle. Yn olaf, beth am gymryd golwg ar ein siop anrhegion, sy’n gwerthu cynnyrch lleol unigryw, tra bydd y plant yn chwarae yn y Maes Antur.