Cyfartaledd hyd: 1 awr 30 munuds

Amwynderau

  • Bwyd
  • Parcio

Archwiliwch hanes a threftadaeth Gwynedd a dewch i weld gweithiau gan artistiaid lleol a rhyngwladol yn Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd. Rydyn ni’n croesawu teuluoedd, yn cynnig mynediad rhad ac am ddim ac yn un o’r deg peth pwysicaf i’w wneud yn ninas hyfryd Bangor ger y Fenai.

Mae’r casgliadau yn Storiel yn cynnwys bron i 10,000 o eitemau hanesyddol o Gymru, yn ddodrefn, tecstilau, archaeoleg, cerameg, celf a ffotograffiaeth.

Ar ôl i chi ymweld â’r amgueddfa a’r oriel, beth am oedi yn ein siop anrhegion unigryw, sy’n llawn crefftau lleol, cardiau a rhoddion. Neu, os ydych chi awydd rhywbeth i’w fwyta neu i’w yfed, dewch am baned i’n siop goffi ac ymlaciwch.

Storiel yw’r atyniad perffaith ym mhob tywydd i unrhyw un sy’n dilyn amserlen Eryri 360. Mynediad am ddim, ac yn agored o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 11 a 5, ac eithrio gwyliau banc. Rydym yn hygyrch iawn gan ein bod ni’n agos at ganol y ddinas ym Mangor, 5 munud o’r orsaf drenau, wrth ymyl yr orsaf fysiau, ac mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus gerllaw.

Ewch ar ein gwefan i weld y digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd ar y gweill.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1