Cyfartaledd hyd: 2 awrs
Mwynhewch un o’r prif weithgareddau ar Ynys Môn wrth i chi brofi taith cwch cyflym RIB ar hyd arfordir godidog gogledd Cymru. Gyda nifer o deithiau poblogaidd i ddewis o’u plith, o’n lleoliadau ym Mhorthaethwy neu yng Nghaergybi, mae taith ar gwch cyflym sy’n addas i bawb.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig bach mwy addas i’r teulu, mae’r teithiau ‘Cychod Antur’ yn cyfuno cyflymder uchel gyda straeon lleol. Rhyfeddwch at y ddwy bont drawiadol dros y Fenai ar ein taith ‘Pontydd a Throbyllau’.
I’r rhai sy’n hoffi bywyd gwyllt, mae ein taith ‘Palod a Morloi’ yn mynd heibio’r gytref morloi preswyl ar Ynys Seiriol. Neu ewch tua’r gorllewin, heibio Castell Caernarfon, Caer hanesyddol Belan, ac allan tuag at ynys drawiadol Llanddwyn ar y daith ‘Cestyll ac Ynysoedd’.
Gyda phum maes parcio cyhoeddus o gwmpas Porthaethwy, mae’n hawdd iawn cyrraedd RibRide. Parciwch, dewch i mewn ac i ffwrdd â chi – ond cofiwch afael yn dynn!