Cyfartaledd hyd: 3 awrs
Amwynderau
- Llety
- Bwyd
- Trydan
- Parcio
Profwch hud Portmeirion, y Pentref Eidalaidd eiconig ger porth deheuol Penrhyn Llŷn, lle gallwch ymweld, aros, bwyta, siopa ac ymlacio. Mae ymweliad â’n hafan dawel yn sicr yn un o ddiwrnodau allan mwyaf unigryw gogledd Cymru.
Adeiladwyd y pentref, sy’n agos i Borthmadog, gan Syr Clough Williams-Ellis ac mae’n llawn o’i bensaernïaeth eiconig. Wedi’i leoli ar ei benrhyn ei hun, mae Portmeirion yn cynnig gerddi a choetiroedd gwyllt gyda phlanhigion isdrofannol a choed penigamp, a golygfeydd dros Aber Afon Dwyryd gyda childraethau aber y gellir eu harchwilio ar lanw isel.
Mae Portmeirion yn gartref i ddau westy, llofftydd y pentref, clwstwr o fythynnod hunanarlwyo, maes cartrefi modur, siopau, sba, a bwytai a chaffis arobryn. Daw nifer o ymwelwyr i ddysgu am stori ddiddorol Portmeirion, gan gynnwys y gwaith ffilmio ar gyfres enwog ‘The Prisoner’ yn y 1970au yn ein canolfan ymwelwyr, gwrando ar ein sioe weledol neu lawrlwytho ein Ap.
Treuliwch y diwrnod yn mynd am dro hamddenol drwy’r pentref, yn mwynhau’r cyfleusterau. Mae gennym le cwbl unigryw, lle delfrydol i greu atgofion – pa un ai a ydych chi’n ymweld am y diwrnod gyda ffrindiau a theulu, neu’n aros am gyfnod hirach i gael seibiant.