Cyfartaledd hyd: 3 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Parcio

Plas Menai yw Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, sy’n darparu gweithgareddau cyffrous i bawb. Dewch i fwynhau llu o gyrsiau a gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr, gyda phob un ohonyn nhw’n cynnig profiadau bythgofiadwy i unigolion, cyplau, teuluoedd a grwpiau.

Wedi ei leoli ar lannau’r Fenai ac yn edrych tuag at Ynys Môn a chyffiniau Caernarfon, rydym yn lleoliad godidog ar gyfer rhoi cynnig ar weithgareddau newydd neu ddysgu sgil newydd. Dewiswch o blith hwylio, hwylfyrddio, arforgampau, cychod pŵer, hwylio a llwythi (ac rydyn ni’n wirioneddol yn golygu llwythi) o bethau eraill.

Mae Plas Menai yn darparu sesiynau ieuenctid gyda’r nod o ennyn diddordeb plant mewn anturiaethau yn yr awyr agored, tra’n magu hyder, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl. Rydym hefyd yn ganolfan hyfforddi sy’n cael ei chydnabod gan RYA a BCU. Felly, yn ogystal â chyrsiau hwyliog i’r teulu, rydym yn cynnig hyfforddiant technegol a hyfforddiant i hyfforddwyr mewn hwylio dingi, hwylfyrddio, cychod pŵer, mordeithio a chaiacio. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau ar gael ar lefelau dechreuwyr, y rhai sydd eisiau gwella a lefel uwch/broffesiynol.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod yma – fe wnawn ni ddarparu’r cit sydd ei angen arnoch chi. Pa un ai a ydych chi’n rhoi cynnig ar weithgareddau newydd gyda ffrindiau, teuluoedd neu’n cofrestru grŵp ysgol ar gwrs, gwnewch ni’n rhan o’ch amserlen Eryri 360, ac rydych chi’n siŵr o ddod ag atgofion rhyfeddol gyda chi am eich ymweliad â gogledd Cymru.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1