Amwynderau

  • Llety
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae safle Carafanau a Gwersylla Plas Gwyn yn fan gwersylla bach, cyfeillgar sy’n cael ei redeg gan deulu ger Caernarfon, ac sy’n lle delfrydol i aros er mwyn crwydro mynyddoedd ac arfordir gogledd orllewin Cymru. Rydyn ni’n croesawu cartrefi modur, carafannau a cherbydau gwersylla ac rydyn ni hefyd yn cynnig llety yn ein pebyll pren, carafanau gwyliau sefydlog a Gwely a Brecwast.

Os ydych chi ar wyliau fel teulu, neu ar eich pen eich hun, neu gyda’ch ci, rydyn ni’n ganolbwynt gwych ar gyfer ymweld â’r Wyddfa, Zip World, Rheilffordd Ucheldir Cymru a chestyll a thraethau gogledd Cymru.

#Mae Plas Gwyn yn fan delfrydol i archwilio mynyddoedd ac arfordir Eryri ac Ynys Môn. Ddeg munud o’r A55 gyda safle bysiau ger y fynedfa, a fydd yn mynd â chi i Gaernarfon neu Lanberis ar gyfer y rheilffyrdd treftadaeth. Mae teithiau cerdded ger llynnoedd a chwaraeon dŵr i gyd o fewn cyrraedd hawdd.

Mae gennym ni leiniau laswellt a llawr caled gyda chyfleustodau. Mae gennym ni gawodydd gyda gwres dan y lloriau a man golchi llestri dan do cymunol gyda microdon, rhewgell a golchdy. Rydyn ni hefyd yn darparu Wi-Fi am ddim ac rydyn ni’n cadw cyflenwad o Nwy Calor. Yr arhosfa berffaith ar daith Eryri 360, pa un ai a ydych chi wedi bod ar y ffordd ers tro neu ddim ond yn dechrau ar eich taith.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1