Cyfartaledd hyd: 2 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Cyfeillgar i gŵn

Teithiwch yn ôl mewn amser i archwilio hanes rhyfeddol llechi a bod yn rhan o fywydau’r rhai a’i fu’n gweithio yma, yn yr amgueddfa Genedlaethol hyfryd hon yn Llanberis wrth droed yr Wyddfa.

Tamaid o hanes bywyd yn fwy nag amgueddfa! Ewch am dro drwy weithdai peirianyddol go iawn, gan gynnwys gofaint, melinau llifio a ffowndri, lle cynhyrchwyd llawer o’r peirianwaith oedd ei angen i gynnal y chwarel.

Ewch am dro i Fron Haul, ein terasau o gartrefi chwarelwyr lle byddwch yn cael blas ar sut beth oedd bywyd i deuluoedd chwarelwyr.

Mwynhewch yr arddangosiadau byw o sgiliau traddodiadol fel hollti ac addurno llechi, a gwaith y gof.

Ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau arbennig yn ystod y flwyddyn neu beth am fwynhau tamaid o Fara Brith yn ein caffi.

Mae’n safle gwych ar ddiwrnodau heulog a phan fydd hi’n bwrw glaw, a gyda llawer o bethau i’w gwneud gerllaw, gallwch wneud diwrnod llawn ohoni!

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1