Cyfartaledd hyd: 2 awrs 30 munuds
Amwynderau
- Llety
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Gwahoddwn chi i dreulio diwrnod yn hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn ar arfordir gogledd Cymru ger pentref Llithfaen. Rydyn ni’n ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg, caffi a llety hanesyddol rhagorol, i gyd mewn cwm hudolus sy’n llawn hanes a diwylliant.
Mae lleoliad unigryw Nant Gwrtheyrn yn cynnig golygfeydd godidog wrth i chi fynd ar deithiau cerdded ar hyd yr arfordir a thrwy’r goedwig, lle bydd byd natur i’w weld ar ei orau. Yn ein cwm diarffordd, cewch gyfle i brofi elfennau mwyaf dilys diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru.
- Ymweld â’n canolfan dreftadaeth a bythynnod chwarelwyr i ddysgu am hanes y cwm.
- Cerdded ar hyd llwybrau lle mae’r môr a’r mynyddoedd yn cyfarfod. Rydyn ni’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n gyforiog o anifeiliaid gwyllt, adar prin, planhigion a blodau.
- Ymlacio yng Nghaffi Meinir, lle mae’r holl fwyd yn gynnyrch cartref a lle cewch chi wasanaeth Cymraeg ardderchog a chyfle i fwynhau golygfeydd arfordirol anhygoel.
- Ymuno â 30,000 o fyfyrwyr sydd wedi mynd ar gyrsiau Cymraeg a diwylliant yn y gorffennol yn ein canolfan ddysgu.
- Aros yn ein bythynnod traddodiadol a hyfryd.
Gyda chyfleusterau dan do a thu allan, gallwch fwynhau beth sydd gan y Nant i’w gynnig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd. Mae mynediad am ddim i’r safle cyfan ac mae croeso i gŵn ym mhobman y tu allan.