Cyfartaledd hyd: 1 awr
Amwynderau
- Parcio
Mae Amgueddfa Lloyd George yn Eifionydd yn adrodd stori ysbrydoledig y bachgen o bentref bach Llanystumdwy a ddaeth yn Brif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiwygiwr a newidiodd fywydau pob un drwy gyflwyno diwygiadau cymdeithasol sylfaenol fel Yswiriant Gwladol a Phensiwn y Wladwriaeth.
Ewch i weld y bwthyn yn Llanystumdwy lle magwyd Lloyd George, wedi ei adfer i fod yn debyg i’r cyfnod pan oedd yn byw yno, rhwng 1864 a 1880. Mae’r theatr yn yr Amgueddfa yn chwarae ffilm am ei yrfa, lle gallwch ei wylio yn dod yn fyw drwy “ben sy’n siarad”.
Archwiliwch gasgliadau unigryw, gan gynnwys y pensiwn cyntaf a gyhoeddwyd, copi drafft o gytundeb heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf, gwisgoedd o’r cyfnod a llawer mwy. Ceir ystafell ddosbarth Fictoraidd yno hefyd, lle mae modd i chi gael blas ar arddull lem gwersi’r cyfnod.
Y tu allan, gallwch fwynhau’r ardd Fictoraidd hyfryd a mynd am dro at fedd Lloyd George ger afon Dwyfor.
Yn agored o’r Pasg hyd at fis Hydref ac yn hawdd ei gyrraedd o Borthmadog a Phwllheli ar lwybr bws rhif 3. Disgrifiwyd yr amgueddfa fel “Perl gudd” gan Croeso Cymru, diolch i’w harteffactau a’i dehongliadau unigryw. Atyniad treftadaeth pob tywydd sy’n rhy dda i’w golli.