Cyfartaledd hyd: 1 awr 20 munuds

Amwynderau

  • Bwyd
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Ychydig funudau ar droed o Reilffordd yr Wyddfa yng nghanol pentref Llanberis, fe welwch chi Reilffordd Llyn Llanberis. Rydyn ni’n un o ‘Drenau Bach Arbennig Cymru’, sy’n cynnig trip hyfryd ar hyd Llyn Padarn i Ben Llyn.

Mae gan Reilffordd Llyn Padarn wreiddiau dwfn yn hanes gogledd Cymru gan iddi gael ei defnyddio i gludo llechi o’r chwareli gan ein Hinjans Stêm Hunslet, sydd wedi cael eu hadfer â llawer o lafur cariad. Bydd yr hen a’r ifanc yn mwynhau golygfeydd godidog Eryri o’ch sedd, ar fwrdd ein trenau stêm rheilffordd gul o dras.

Mwynhewch y daith ar y trên o’r brif orsaf yn ardal Gilfach Ddu ym Mharc Padarn, i Lanberis ac yna i Ben Llyn (sydd, fel mae’r enw yn awgrymu, ym mhen arall y llyn). Ar y daith yn ôl, dewch oddi ar y trên yng Nghei Llydan, a mwynhau golygfeydd hyfryd o lannau’r llyn yn y tawelwch yno. Dewisodd Croeso Cymru y llecyn hwn yn un o’r deg lle mwyaf poblogaidd ar gyfer picnic, gan gyfuno “hwyl picnic hen ffasiwn â rhamant teithio ar drên o dras”.

Mae gennym siop a chaffi, rydym yn hygyrch ac yn croesawu cŵn ac rydyn ni’n arbennig o addas ar gyfer grwpiau a phartïon ysgol. Gan ein bod ni mor agos at yr Wyddfa, rydyn ni’n atyniad delfrydol i’w gynnwys yn eich amserlen Eryri 360.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1