Cyfartaledd hyd: 2 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Trydan
  • Parcio

Antur danddaearol yw Labrinth y Brenin Arthur lle byddwch chi’n hwylio drwy borth hudolus rhaeadr, yn ôl mewn amser ac i’r Oesoedd Tywyll. Daw straeon chwedlonol am y Brenin Arthur a chwedlau eraill Cymru i’r fei wrth i chi gael eich tywys drwy’r ogofâu gan gychwr dan gwfl. Cewch glywed straeon am ddreigiau, cewri, brwydrau ffyrnig a mwy, gyda golygfeydd dramatig, goleuadau a sain.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn mwynhau un o’r diwrnodau gorau yn ne Eryri, rydym yn rhannu ein safle gyda Chanolfan Grefftau Corris lle gallwch weld naw math o grefftau cartref ar waith, gan gynnwys distyllfa jin Dyfi, sydd wedi ennill sawl gwobr. Gallwch hyd yn oed roi cynnig ar wneud eich crefftau eich hun.

Gydag antur hynafol, gweithgareddau llawn hwyl a chrefftau o safon, mae Labrinth y Brenin Arthur yn cynnig rhywbeth i’r teulu i gyd. Rydyn ni mewn lle hygyrch, ar y ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Rydyn ni hefyd yn agos at lawer o’r atyniadau hanesyddol eraill yn yr ardal, sy’n rheswm gwych dros ein cynnwys ni yn eich amserlen Eryri 360.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1