Amwynderau

  • Llety
  • Trydan
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Yn darparu ar gyfer pebyll, carafanau a chartrefi modur, mae Hendre Mynach yn croesawu cŵn ac yn barc teithio a gwersylla bum seren yn y Bermo. Mewn lleoliad godidog ar lan y môr, hanner ffordd rhwng tref a Chastell Harlech a Dolgellau, rydyn ni o fewn taith gerdded fer ar y gwastad ar hyd y traeth neu’r promenâd o dref harbwr hyfryd y Bermo, gyda’i chymysgedd eclectig o dafarnau, caffis a bwytai.

Rydyn ni’n croesawu teuluoedd, cyplau a theithwyr unigol, ac rydyn ni o fewn cyrraedd i llwybr beicio 8, Llwybrau Mawddach, Ardudwy a’r Rhinogydd, rhaeadrau Ysgethin, Castell Harlech, Cader Idris a rheilffordd Tal-y-llyn i enwi dim ond rhai o’r atyniadau cyfagos.

Yn gefnlen mae Parc Cenedlaethol Eryri, gyda’i weithgareddau amrywiol a niferus, ac mae ein drws ffrynt yn agor yn syth tuag at draeth tywodlyd. Wrth ystyried popeth, mae Hendre Mynach yn ganolbwynt perffaith i’ch carafán ar gyfer eich amserlen Eryri 360.

Wedi ein rhestru ymysg y 10 parc gorau mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, mae gennym sgoriau pum seren gan Groeso Cymru a’r AA, ynghyd â thystysgrif ragoriaeth ar gyfer 2019 gan Trip Advisor. Rydyn ni’n agored rhwng 1 Mawrth a 9 Ionawr.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1