Amwynderau
- Dog Friendly
- Parking
- Food
- Accommodation
Mae Gwesty Trearddur Bay yn fwy na dim ond gwesty. Mae ganddo 47 o ystafelloedd gwely hardd, llawer gyda golygfeydd gwych o’r môr a balconïau a phob un â’r cysuron y bydd eu hangen arnoch i ymlacio. Mae ei diroedd wedi’u lleoli ger y traeth, sy’n ddelfrydol ar gyfer golygfeydd glan y môr wrth i chi ymlacio yn nhafarn yr ‘Inn at the Bay’. Mae’r bwydlenni’n cynnig prydau tymhorol arbennig a chlasuron tafarn sy’n berffaith ar gyfer yr Hydref, ac mae’r bar yn frith o gwrw blasus JW Lees fel MPA a Manchester Craft Ale, gwinoedd o safon, gins premiwm a gwirodydd.
Mae yna hefyd opsiwn Bwyty’r Bae & Bar, sydd â’i fwydlen ei hun sy’n canolbwyntio ar brydau dyddiol, wedi’u paratoi’n ffres, ar gyfer profiad bwyta arbennig. Mae’r 1828 Bar Gardd a Chegin, yn berffaith ar gyfer cydio mewn peint a thamaid ar y dyddiau heulog hynny.
Mae gan Fae Trearddur le gwych ar gyfer digwyddiadau, partïon a phriodasau traeth arfordirol Ynys Môn. Mae ei leoliad gwych, sy’n edrych dros fae tywodlyd hardd Trearddur, yn lleoliad perffaith ar gyfer eich dathliad, parti neu briodas wrth ymyl y môr.