Cyfartaledd hyd: 4 awrs
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Ymunwch â ni yng nghanol y goedwig, ym Mharc Teulu poblogaidd y Gelli Gyffwrdd, ar gyfer llu o weithgareddau antur llawn hwyl. O dan ganghennau’r coed, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, rydyn ni’n cynnig gweithgareddau antur a llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Mae ein gweithgareddau ar wasgar ar draws coedwig, i gyd ofewn 27 erw cwbl hudolus. Dewch i fwynhau yr unig reid ddŵr yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei phweru gan yr haul, neidiwch ar ffigyr-êt cyntaf y byd sy’n cael ei bweru gan bobl, neu saethwch i lawr y rhedfa sled hiraf yng Nghymru!
Bydd plant wrth eu bodd ar y Neidiwr Enfawr, yn archwilio’r tyrrau pen coed, yn tynnu eu hesgidiau a’u hosanau ar gyfer y Llwybr Troednoeth neu anelu am yr aur ar y llain Saethyddiaeth.
Yna, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu yn Theatr y Goedwig. Yn ystod gwyliau’r ysgol, bydd ddiddanwyr arbennig yno! Byddwch yn greadigol yn y man crefft a gwnewch rywbeth unigryw i fynd adref gyda chi.
Yn aml yn ennill gwobrau am yr ‘Atyniad gorau i deuluoedd yng ngogledd Cymru’, mae’n anodd iawn curo dallan fel hyn. Mae’n hawdd iawn cyrraedd y Gelli Gyffwrdd, oddi ar yr A487 rhwng Bangor a Chaernarfon.