Cyfartaledd hyd: 2 awrs

Amwynderau

  • Cyfeillgar i gŵn

Yn difyrru ymwelwyr ers 1902, Tramffordd y Gogarth yn Llandudno yw’r unig dram ffordd sy’n cael ei dynnu gan gebl. Mae siwrnai ar ein hatyniad hanesyddol yn mynd â chi ar daith hyfryd am filltir o Landudno i gopa Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld mor bell ag Ynys Manaw ac ardal y Llynnoedd.

Mae gennym un o’r atyniadau mwyaf hygyrch ar arfordir gogledd Cymru. Gallwch fwynhau diwrnod allan gyda’r teulu i gyd (gan gynnwys cŵn sy’n ymddwyn yn dda) pan fyddwch chi’n mynd ar fwrdd un o’n cerbydau tram Fictoraidd sydd wedi eu hadfer yn hyfryd.

  • Dechreuwch ddringo ar hyd y ffyrdd troellog wrth droed y Gogarth, gyda golygfeydd o fae aruthrol Llandudno.
  • Yn yr orsaf hanner ffordd, cewch gyfle i ddysgu am hanes hynod peirianneg Fictoraidd a gweld y system halio bwerus ar waith.
  • Yna cewch fynd mewn cerbyd tram arall a adferwyd yn hyfryd i gwblhau eich taith i’r copa. Cadwch olwg am y Geifr Kashmir a’r gloÿnnod byw Glesyn serennog prin.
  • Ar ôl i chi gyrraedd y copa, ymlaciwch, mwynhewch y golygfeydd rhyfeddol neu ewch am dro ar y Gogarth.

Mae Tramffordd y Gogarth yn atyniad y mae’n rhaid ei weld fel rhan o’ch amserlen Eryri 360 o gwmpas mynyddoedd ac arfordir gogledd Cymru.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1