Cyfartaledd hyd: 3 awrs
Amwynderau
- Llety
- Bwyd
- Trydan
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Gyda dros 13 o bethau i’w gwneud, mae hwyl i’w gael yma, beth bynnag fo’r tywydd, ym Mharc Glasfryn, i’r gogledd o Abersoch, ar Benrhyn Llŷn. Rydyn ni’n cynnig un o’r diwrnodau teuluol gorau yng ngogledd Cymru, gyda rhywbeth i bob cenhedlaeth ei wneud. Cofiwch ein cynnwys ni yn eich amserlen Eryri 360 ar gyfer gweithgareddau nad oes modd i chi eu gwneud yn unman arall yn Eryri.
Rasiwch ar draciau’r certi dan lifoleuadau, ymarferwch eich aneliad wrth Saethu Colomennod Clai, Saethyddiaeth neu Golff Gwyllt. Neu gallech fynd dan do i roi cynnig ar Bowlio Deg a gadael i’r plant ddefnyddio eu hegni yn y man Chwarae Meddal.
Mae ein llynnoedd hyfryd yn gartref i Barc Dŵr, lle gallwch ddysgu sut i Donfyrddio gyda hyfforddwyr profiadol, neu os ydych chi’n donfyrddiwr profiadol, heriwch eich hun ar rai o’r rhwystrau niferus.
Dylai’r rhai sy’n chwilio am antur fynd i’r tŵr a neidio ar y ‘Blob’, gan beri i’ch ffrindiau hedfan drwy’r awyr i’r llyn. Neu, os ydych chi’n chwilio am chwaraeon dŵr ychydig tawelach, beth am fwynhau golygfeydd syfrdanol o’r mynyddoedd ar ein caiacau neu fyrddau padlo.
Parc Glasfryn – hwyl i’r teulu ym Mhenrhyn Llŷn, beth bynnag fo’r tywydd.