Cyfartaledd hyd: 4 awrs 30 munuds
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Mae golygfeydd ysblennydd, cerbydau cyfforddus a pheiriannau stêm hanesyddol yn aros amdanoch chi yng nghanol Eryri. Mae arfordir godidog, coetiroedd hynafol, mynyddoedd, afonydd a chastell ysblennydd Caernarfon i gyd ar y daith wrth i chi ddechrau o Gaernarfon, Porthmadog neu Flaenau Ffestiniog ar daith ar Reilffyrdd hanesyddol Ffestiniog ac Eryri.
Rydyn ni’n cynnig diwrnod delfrydol i deuluoedd a chyplau fel ei gilydd, ac mae ein teithwyr yn teithio mewn rhai o’r cerbydau mwyaf cyfforddus sydd ar unrhyw reilffordd dreftadaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae hyd yn oed modd teithio ym moethusrwydd y dosbarth cyntaf Pullman gyda bwyd wedi ei goginio’n ffres wedi ei weini tra’r ydych chi’n eistedd yn eich sedd.
Fel y cwmni trenau treftadaeth hynaf a’r hiraf ei oes yn y byd sy’n dal i weithio, rydym yn gwybod tipyn go lew am yr hyn sy’n gwneud taith yn arbennig. Bydd hyd yn oed taith fer ar ein rheilffyrdd yn eich helpu chi i ymlacio – yn gymaint felly fel ein bod ni’n siŵr y byddwch chi eisiau gwneud y cyfan drosodd a throsodd.
Gyda dewis o 20 o fannau cychwyn i’ch taith, a chymaint o wahanol ddewisiadau taith a thirweddau ar gyfer y rhan fwyaf o amserlenni, mae ein rheilffyrdd ni’n cynnig rhywbeth i bawb.
Dewch i fwynhau diwrnod gyda ni – stêm, golygfeydd a mynyddoedd ac arfordir Eryri mewn un pecyn hyfryd.