Amwynderau

  • Bwyd

Mae bwytai pysgod a sglodion Enoch yn cynnig pysgod a sglodion gwych wedi eu gweini gan bobl wych. Beth gewch chi’n well na hynny? Mae gennym ni wreiddiau dwfn yng Nghymru, gyda bwytai ger Llandudno ac ar Ynys Môn sy’n denu pobl o bedwar ban y byd. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud llawer o newidiadau moesegol bychan a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth yn ein barn ni, er mwyn i bawb ohonom allu mwynhau pysgod a sglodion yn awr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi cofleidio traddodiad ond wedi llwyddo i wneud pethau’n gyfoes. Mae’n wir ein bod ni wedi ennill gwobrau, ond rydyn ni hefyd yn gwybod mwy am bobl, ein cymunedau a’n planed. Mae ein bwyty yng Nghyffordd Llandudno wedi ei leoli’n hwylus ar y ffordd i rai o atyniadau gorau gogledd Cymru oddi ar yr A55.

Felly, pa un ai a ydych chi’n chwilio am wefr neu’n ymweld â’r ardal i fwynhau’r golygfeydd, rydyn ni’n agored drwy’r dydd, yn barod i weini bwyd môr poeth, blasus a chynaliadwy, i’w fwyta ar y safle neu i fynd adref gyda chi.

Mae siopau Enoch yma i roi’r maeth i chi allu mwynhau eich antur yng ngogledd Cymru.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1