Cyfartaledd hyd: 2 awrs 30 munuds

Amwynderau

  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae Rheilffordd y Cambrian yn cysylltu trigolion trefol Llundain a Birmingham â’r prif orsafoedd ym Machynlleth a Phwllheli. Mae’r rheilffordd yn cynnig mynediad hawdd at atyniadau poblogaidd o fewn cymunedau clos a ffyniannus ar arfordir hyfryd gorllewin Cymru, o Aberdyfi yn y de i benrhyn Llŷn yn y gogledd.

Os ydych chi’n chwilio am antur, neu ryfeddodau hanesyddol, fel Rheilffordd Stêm Tal-y-llyn, neu’n dymuno ymlacio dros y penwythnos, bydd Rheilffordd y Cambrian yn ffordd wych, hawdd a dibynadwy o gyrraedd y pethau gorau sydd gan Barc Cenedlaethol Eryri a’r arfordir i’w cynnig.

Dewch i ddarganfod diwrnodau gwych allan ar gyfer teuluoedd a grwpiau wrth i chi fynd ar daith epig i weld Cestyll Harlech a Chricieth – gyda mynediad hwylus at y naill a’r llall ar y trên. Ewch am dro annisgwyl oddi ar y prif lwybrau i chwilio am antur llawn adrenalin ym mynyddoedd chwedlonol y canolbarth. Profwch y cyfoeth o fwyd sydd wedi ennill gwobrau yn rhai o fwytai mwyaf poblogaidd Cymru – gan gynnwys rhai seigiau lleol blasus iawn.

Neu, yn syml iawn, mwynhewch eich amgylchedd rhamantus dros y penwythnos – gyda lletygarwch gwych ar gael.

Peidiwch ag oedi eiliad yn rhagor – gadewch y car trefnwch y siwrnai, ac yna eisteddwch yn ôl a mwynhewch y daith.

Our locations

locations on map

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1