Amwynderau

  • Cyfeillgar i gŵn
  • Llety
  • Parcio
  • Trydan

Mae Maes Gwersylla Cae Du yn safle eang o 30 erw wedi’i osod ar lan yr Afon Glaslyn ychydig y tu allan i Feddgelert yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein safle yn gyfeillgar i gŵn ac yn cynnig lleiniau ar gyfer carafanau teithiol, cartrefi modur a phebyll. P’un a ydych am goncro’r Wyddfa, dal i fyny gyda theulu a ffrindiau neu’n syml eisiau ymlacio a dadflino, mae gan Cae Du y cyfan.

Rydym lai na milltir o gerdded ar hyd yr Afon Glaslyn i bentref carreg hardd Beddgelert gyda dewis o dafarndai, caffis, a siopau crefftau. Rydym hefyd o fewn pellter cerdded i’r atyniad teuluol arobryn, Mwyngloddiau Copr Sygun, yn ogystal â dŵr hudolus Llyn Dinas.

Mae maes gwersylla Cae Du yn baradwys i gerddwyr gyda digonedd o lwybrau o’r safle ei hun a dim ond taith fer i ffwrdd o bwlch Aberglaslyn, Coedwig Beddgelert a’r Wyddfa.

Rydym yn croesawu teuluoedd, cyplau, grwpiau gweithgaredd a gwarbacwyr. Rydym ar agor rhwng 1 Mawrth a 3 Tachwedd.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1