Amwynderau

  • Cyfeillgar i gŵn
  • Trydan
  • Llety
  • Parcio

Gwyliau yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, Cymru ym maes carafanau a gwersylla prydferth Bryn Gloch. Wedi’i osod wrth droed yr Wyddfa ar lan yr afon Gwyrfai, mae gan ein safle arobryn olygfeydd syfrdanol o’r wlad o’i amgylch.

Mae ein parc yn gyfeillgar i gŵn ac yn cynnig teithiau, gwersylla, lleiniau tymhorol, cytiau bugeiliaid, carafanau sefydlog, a chartref gwyliau. Mae digon o le ym Mryn Gloch fel y gallwch eistedd yn ôl a mwynhau golygfeydd godidog Eryri, yma yng Nghymru. O nofio a physgota ar yr afon i feysydd chwarae, ystafell gemau, ystafell deledu a chae pêl-droed, mae gennym ni rywbeth i bawb i wneud eich arhosiad ym Mryn Gloch mor bleserus â phosib.

Mae digonedd o gweithgareddau yn yr ardal i bawb eu mwynhau, a llwybrau cerdded yn arwain yn syth o’r safle. Gallwch hyd yn oed gerdded o’r cae i gopa’r Wyddfa mewn ychydig oriau!

Ar agor am 10.5 mis o’r flwyddyn, felly gallwch chi fwynhau’r safle ym mhob un o’r tymhorau. Rydym ar agor rhwng 1 Mawrth a 11 Ionawr.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1