Amwynderau
Llety
Bwyd
Trydan
Parcio
Cyfeillgar i gŵn
Mae Tafarn y Black Boy yn un o dafarndai mwyaf eiconig Caernarfon. Rydyn ni’n dafarn (sy’n dyddio’n ôl i tua 1522) ac yn fwyty gydag ystafelloedd aros sy’n unigryw o ran ein hanes a’n lleoliad, o fewn waliau’r dref ac yn agos at Gastell Caernarfon. Mae’n lle gwych i fwyta, aros neu ddim ond galw draw am ddiod.
Mae ein gwesteion yn mwynhau awyrgylch cynnes ac chlyd gyda chyfleusterau modern sy’n cynnig bwyd sydd wedi ennill gwobrau a llety o safon mewn awyrgylch llawn cymeriad, gyda phwyslais ar werth am arian, gwasanaeth a chroeso. Ein nod bob amser yw rhagori ar eich disgwyliadau pa un ai a ydych chi’n aros yn ein hadeilad rhestredig Gradd II neu’n galw am bryd o fwyd.
Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd i weddu i’ch anghenion, ac rydyn ni’n rhagori yn ein hymdrechion i sicrhau bod eich ymweliad yn gofiadwy. Cewch groeso Cymreig cyfeillgar yng nghanolbwynt y Gymru Gymraeg.
Mae’r dafarn mewn lleoliad da o ran mynediad rhwydd at y rhan fwyaf o atyniadau Eryri a gogledd Cymru. Felly, edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes Cymreig i chi wrth i ni weithredu fel canolbwynt ar gyfer eich amserlen Eryri 360.