Cyfartaledd hyd: 1 awr 30 munuds
Amwynderau
- Bwyd
- Parcio
- Cyfeillgar i gŵn
Dewch am dro ar y trên ar Reilffordd Llyn Tegid! Ymunwch â ni am ffordd hwylus i deulu a chŵn weld rhai o olygfeydd godidog de Eryri. Mae ein trenau stêm hanesyddol lled cul yn rhedeg ar hyd glannau llyn mwyaf Cymru, rhwng Llanuwchllyn a’r Bala, gyda golygfeydd trawiadol ar draws y llyn o fynyddoedd Arennig a’r Aran gerllaw.
Does dim rhaid i chi fynd ar y trên os mai dim ond eisiau paned a darn o gacen yn ein caffi yn yr orsaf yn Llanuwchllyn ydych chi. Mae croeso i chi alw heibio ein blwch signal, sydd yma ers 1896, lle bydd y dyn signalau yn falch iawn o ddangos i chi sut mae’n gweithio.
Mae ein Canolfan Dreftadaeth newydd yn agored yn awr ac mae’n lle delfrydol i ddysgu am hanes diddorol ein peiriannau stêm a’r chwareli llechi lle’r oedden nhw’n arfer cael eu defnyddio. Mae hyn hefyd yn ein gwneud ni’n lle gwych i dripiau ysgolion a grwpiau ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae maes parcio am ddim yng ngorsaf Llanuwchllyn a lle i barcio ar ochr y ffordd yn y Bala.
Cadwch olwg am ein digwyddiadau arbennig adeg y Pasg, Calan Gaeaf a chyn y Nadolig. Neu, mwynhewch ddiwrnod gydag Alice (ein hinjan enwog, sy’n ymddangos yn ei llyfr ei hun) neu rhowch gynnig ar ein tripiau fin nos, lle’r ydym yn gweini detholiad o brydau ysgafn; o datws pob a physgod a sglodion i farbeciw yn ystod yr haf yn achlysurol.