Amwynderau

  • Llety
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae bythynnod gwyliau hunan-arlwyo Arlanfor yn cynnig 3 bwthyn moethus, gyda chroeso i gŵn, ger y môr ym mhentref Moelfre ar Ynys Môn. Arhoswch gyda ni a gallwch ddeffro i weld un o’r golygfeydd arfordirol gorau ar yr ynys.

Rydym o fewn llai na milltir i dri thraeth tywodlyd gwych. Mae bwytai, atyniadau a mynediad at yr arfordir o fewn cyrraedd hawdd. Mae bron a bod yr holl fwynderau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwyliau braf i’r teulu ar Ynys Môn i’w cael gerllaw ym mhentref Benllech.

Mae ein bythynnod golau ac agored wedi eu haddurno’n gain ac yn ganolbwynt perffaith i deuluoedd a chyplau sydd eisiau archwilio mannau hyfryd Ynys Môn. Rydyn ni o fewn taith hanner awr mewn car o Barc Cenedlaethol trawiadol Eryri, lle gallwch chi fwynhau’r holl weithgareddau sydd gan eich amserlen Eryri 360 i’w cynnig. Neu, os yw’n well gennych chi ymlacio yma, mae digonedd o bethau i’w mwynhau gerllaw.

Rydyn ni’n falch o fod wedi derbyn Gwobr yr Allwedd Werdd am ein harferion cynaliadwy. Ewch i’n gwefan i archebu un o’n bythynnod gwyliau trawiadol a chymerwch olwg ar ein tudalen Facebook am gynigion munud olaf.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1