Cyfartaledd hyd: 2 awrs

Amwynderau

  • Bwyd
  • Trydan
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Yn Sw Môr Môn, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol a llawn hwyl i deuluoedd, ysgolion a grwpiau. Rydyn ni’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar Ynys Môn, gan roi syniad o’r amrywiaeth anhygoel o fywyd morol Prydeinig sydd reit ar garreg ein drws, ac rydyn ni eisiau rhannu’r pethau rhyfeddol hynny â chi.

Ar eich ymweliad, byddwch yn dysgu am greaduriaid rhyfeddol o bob cwr o arfordir y Deyrnas Unedig, fel yr octopws, congrod a siarcod Prydain, yn ogystal â’n deorfa cimychiaid a’n meithrinfa morfeirch.

Dewch draw i’r Caffi os ydych chi ar lwgu, gan fod byrbrydau poeth ac oer a chacennau cartref gwych ar gael yno, i gyd wedi eu gwneud o gynnyrch lleol.

Yna ewch i weld beth sydd gennym ni yn ein siop anrhegion wych. Mae digonedd o roddion, cofroddion a chynnyrch lleol i bob oed a chyllideb yno – i gyd o ffynonellau moesegol.

Ar gyfer y plant, mae gennym faes chwarae antur, castell neidio a sleid, a chwrs golff gwyllt anhygoel. Mae llawer o fyrddau picnic, gyda digon o le i grwpiau a theuluoedd allu mwynhau golygfeydd godidog dros baned o goffi neu ginio.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1