Tocyn Eryri
Eich tocyn i gael disgowntiau mewn detholiad o atyniadau, bwytai, manwerthwyr a darparwyr llety penodol ar lwybr Eryri 360. Dewch i weld mwy a gwario llai gyda chynigion unigryw a bargeinion gwerth ychwanegol ar draws gogledd Cymru.
Beth yw’r Tocyn?
Cerdyn disgownt yw Tocyn Eryri, sy’n rhoi mynediad at ddisgowntiau unigryw a chynigion gwerth ychwanegol mewn busnesau ar lwybr Eryri 360.
Pam ddylwn i gael Tocyn Eryri?
Arbedwch arian ar ddiwrnodau allan, prydau bwyd, llety a siopa ledled gogledd Cymru. Mae modd defnyddio pob cerdyn dro ar ôl tro ar gyfer rhwng 1 a 4 o bobl.
Pwy sy'n gallu cael tocyn?
Unrhyw un. Os ydych chi’n byw’n lleol neu ar wyliau ar hyd llwybr Eryri 360, gall unrhyw un elwa ar yr arbedion wrth greu atgofion gwych.
Sut?
Mewn busnes sy'n rhan o'r cynllun
Cofrestrwch ar-lein a dangoswch eich e-bost cadarnhau er mwyn casglu’r cerdyn mewn busnes sy’n cymryd rhan. Dechreuwch gael yr arbedion yn y busnes NESAF y byddwch yn ymweld ag ef.
Cofrestru ar-leinAr-lein gyda ni
Prynwch ar-lein cyn eich ymweliad a byddwn yn postio’r cerdyn i’ch cartref ynghyd â map Eryri 360. Gallwch ddechrau ei ddefnyddio yn syth ar ôl i chi gyrraedd! Noder - caniatewch 10 diwrnod ar gyfer y post.
Prynu ar-leinCanolfannau Croeso
Prynwch yn unrhyw un o’r Canolfannau Croeso a restrir.