Amwynderau
Llety
Bwyd
Parcio
Cyfeillgar i gŵn
Mae Gwesty Trefeddian yn Aberdyfi, sydd wedi ennill gwobrau, mewn lleoliad perffaith yn ne Eryri, gan ei fod mewn lleoliad arfordirol ysblennydd gyda milltiroedd o draethau tywod euraid gerllaw. Yn eiddo i deulu Cave ers 1908, sy’n parhau i’w reoli, mae ein gwesty yn cynnig gwasanaeth personol o safon uchel, a bwydlen pum cwrs sy’n newid yn ddyddiol ac sy’n cynnwys cynnyrch lleol.
Mae’r gwobrau yn cynnwys Gwesty Gorau’r Flwyddyn Cymru 2018/19 gan yr AA a Gwesty Gorau Canolbarth Cymru y Flwyddyn 2019/20. Mae gennym wobr deulu gan y Good Hotel Guide ar gyfer 2020, ac rydyn ni yn oriel anfarwolion TripAdvisor.
Fel y dengys ein gwobrau, rydyn ni’n fwy na dim ond lle i aros ar wyliau yn Aberdyfi. Mae ein gwesteion yn dianc i Drefeddian ym mhob tymor am yr ystafelloedd cyfforddus a modern, sydd â digon o le, darpariaeth hunan-arlwyo moethus pum seren, terasau sy’n wynebu tua’r de, a’r hinsawdd fwyn a’r machlud trawiadol a gawn drwy gydol y flwyddyn.
Yn ogystal, gall gwesteion y gwesty fwynhau’r pwll nofio dan do a Jacuzzi, cyrtiau tennis, lawnt golff, ystafell gemau dan do, salon harddwch a Llwybr Arfordir Gorllewin Cymru, sy’n union y tu allan i’n drws ffrynt.
Mae Trefeddian yn berffaith ar gyfer parau sy’n dymuno ymlacio, teuluoedd neu bobl sy’n chwilio am le cyfforddus, wrth y môr a chanolbwynt i archwilio popeth sydd gan un o amserlenni Eryri 360 i’w gynnig. Ymysg yr atyniadau lleol y mae cestyll treftadaeth y byd, cwrs golff Aberdyfi, rheilffordd stêm Tal-y-llyn, chwaraeon dŵr, gwarchodfeydd natur a biosffer Dyfi.
Felly, pa un ai a ydych chi yn Eryri i ymlacio yn ein lolfeydd gyda golygfeydd o’r môr, crwydro tirwedd naturiol mynyddoedd a rhaeadrau’r Canolbarth neu roi gwefr i chi eich hunan gyda’r gweithgareddau llawn adrenalin mae Parc Cenedlaethol Eryri yn enwog amdanyn nhw… gobeithio y byddwch chi’n gwneud hynny tra’n aros gyda ni.