Amwynderau

  • Llety
  • Bwyd
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae tafarn y Bull yn dafarn hanesyddol ar Ynys Môn, ac mae’n cynnig llety pum seren moethus a rhai o fwydydd gwobredig gorau Cymru. Dafliad carreg o Gastell Biwmares, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, mae’r Bull wedi bod yn croesawu gwesteion ers dros 400 o flynyddoedd.

Rydyn ni’n cynnig cymysgedd unigryw o lety sy’n cyfuno swyn y traddodiadol gyda dyluniadau cyfoes modern. Mae bwyty’r ‘Coach’ sydd wedi ennill sawl gwobr yn cynnig amgylchedd hamddenol ac addas i deuluoedd, gyda dewis bwyta ‘al fresco’ trawiadol yn ystod cyfnodau cynhesach.

A ninnau’n dafarn annibynnol fechan, mae ein cogyddion talentog yn gallu gwneud y defnydd gorau o’r cynnyrch gorau sydd gan Ynys Môn i’w gynnig yn ogystal â’r bwyd môr mwyaf ffres o ddyfroedd lleol. Ar ôl rhoi gwefr i flasbwyntiau eich tafod, beth allai fod yn well i’r enaid na cherdded ar lan y môr gyda golygfeydd ysblennydd o Eryri ar draws y Fenai.

Rhowch ni wrth wraidd eich profiad Eryri 360 a’ch ymweliad â thref ddarluniaidd Biwmares – rydyn ni’n un o’r mannau aros gorau ar Ynys Môn.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1