Amwynderau

  • Llety
  • Bwyd
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Wedi ei leoli yn nyffryn godidog afon Ogwen, heb fod ymhell o Fangor, mae Parc Carafanau a Llety Ogwen Bank mewn coedlan dawel yng ngogledd Eryri. Dewiswch o’n lletyau moethus, ein carafanau neu ein podiau glampio, ac mae baddonau poeth gyda rhai ohonyn nhw. Dychmygwch syllu ar y sêr o’ch baddon, gyda gwydraid o ddiod yn eich llaw, mewn lleoliad mor arbennig yng nghanol cefn gwlad… dyna i chi nefoedd ar y ddaear.

Ymlaciwch a thrafodwch eich diwrnod ym mar a gril y chwarel ar y safle. Mae ein bwyty wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar, a daw ein holl fwyd a diod gan y cynhyrchwyr gorau ledled gogledd Cymru.

Gydag afon Ogwen gerllaw, dyma’r lle perffaith i aros yng ngogledd Cymru, gyda rhai o’r teithiau antur gorau ar garreg ein drws. Gallwch fynd am dro hamddenol ar lannau llynnoedd neu fynd ar deithiau adrenalin uchel. Mae ein llety lle mae croeso i anifeiliaid anwes yn boblogaidd drwy gydol y flwyddyn gyda cherddwyr brwd a’u ffrindiau pedair coes, gyda chyfle i archwilio harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri.

Pa ffordd bynnag y dewiswch dreulio eich gwyliau wrth ddilyn amserlen Eryri 360, rydyn ni’n cynnig y ddihangfa berffaith ar ddiwedd eich diwrnod.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1