Amwynderau

  • Llety
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Mae Llanfair Hall, enillydd Safle Glampio Gorau 2000 AA, yn darparu llety glampio hyblyg a gwahanol pum seren a llety mewn bythynnod ger Llanfairpwll yn Ynys Môn. Dim ond 3 milltir o Gwningar Niwbwrch, mae awyr glir i’w gweld o Neuadd Llanfair sy’n berffaith ar gyfer gwylio’r sêr, ac mae’n hafan dawel i ddianc oddi wrth brysurdeb bywyd modern.

Dewiswch o blith 5 pod glampio ar gyfer rhwng 2 a 4 o bobl, pob un gyda’i ystafell ymolchi ei hunan a’i bydew tân preifat. Neu beth am ddewis caban pren, gyda digon o le i 6 o bobl gysgu yno, neu ein hysgubor wych wedi ei thrawsnewid, sy’n cynnwys baddon poeth. Unwaith eto, mae lle i hyd at 6 o bobl yno.

Mae dillad gwely a thywelion dylunydd ar gael ym mhob adeilad, a chroesawir anifeiliaid anwes i’n safle. Mae’r lleoliad hyblyg yn rhoi’r cyfle i grwpiau o deuluoedd gael grwpiau o lety iddyn nhw eu hunain, gyda’r bonws ychwanegol o un gyfradd brisio gydol y blwyddyn, sy’n arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd un rhiant.

Mae ceginau cae cymunol, gyda phoptai pizza yn y awyr agored, yn rhoi cyfleoedd hunan-arlwyo, gyda dewis o farbeciw cymunol dan orchudd rhag ofn y bydd y tywydd yn wlyb.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1