Cyfartaledd hyd: 1 awr 30 munuds

Amwynderau

  • Bwyd
  • Parcio
  • Cyfeillgar i gŵn

Dewch i ddarganfod hanes llechi Cymru a rôl ein safle yn gweithgynhyrchu’r cynhyrchion llechi mae’r rhan hon o ogledd Cymru yn enwog iawn amdanynt. Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones yn 1861, ac mae’n cynnig teithiau hunan-dywys a chyfle unigryw i greu eich cofrodd llechen chi eich hun.

Wedi ei leoli oddi ar yr A487, rhwng tref hanesyddol Caernarfon a thref harbwr Porthmadog, rydym mewn man hygyrch iawn ac yn croesawu cŵn, gyda maes parcio am ddim, siop anrhegion a chaffi i ategu ein prif atyniadau.

Rydym yn cynnig taith hunan-dywys, sy’n weithgaredd y gellir ei brofi wrth eich pwysau. Gall y plant fwynhau cwis wrth i chi grwydro drwy’r safle, archwilio’r adeiladau gwreiddiol a gwylio’r peiriannau gweithio go iawn sy’n cynhyrchu ein crefftau Llechi o Gymru ar gyfer y siop. Os cewch chi eich ysbrydoli gan ein crefftwyr, fe’ch gwahoddir i greu eich cofrodd llechen eich hun i fynd adre gyda chi o Eryri. Ewch i’n gwefan i archebu lle ac i gael rhagor o wybodaeth am y caffi, y siop fferm a’r siop cigydd sydd ar y safle.

Ar agor 7 diwrnod yn ystod Y Pasg hyd ddiwedd Mis Medi – 9yb hyd 5yh.
Ar agor Mis Hydref hyd at gychwyn Y Pasg – Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 9yb hyd 5yh. (Ar Gau – Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
Estynnwn groeso cynnes i bawb ac mae digon o le yma i deuluoedd a grwpiau. Mae ein safle cyfan yn addas i gŵn hefyd, felly nid oes angen i chi eu gadael ar ôl.

Discover More

Plan My Trip
0 mi1 day
Add Day

Add your starting location and press 'Search'

Day 1