Amwynderau
Bwyd
Tri o fwytai glan môr cwbl unigryw yn nhrefi Cricieth, Porthaethwy a Llandudno. Mae bwytai Dylan’s yn anffurfiol ac yn addas i deuluoedd, gyda bwydlen eang yn cynnwys pizzas, bwyd môr a llawer o brydau tymhorol, yn ogystal â choctels, gwin a jin o Gymru.
https://www.dylansrestaurant.co.uk/locations/menai-bridge
https://www.dylansrestaurant.co.uk/locations/criccieth
https://www.dylansrestaurant.co.uk/locations/llandudno
Rydym yn cael ein cynhwysion yn lleol lle bynnag y gallwn ni ac rydyn ni’n ymdrechu i ddathlu cynnyrch lleol, cymeriad lleol a hyfrydwch naturiol gogledd Cymru ym mhob bwydlen rydym yn ei chreu.
Gyda’n bwytai ni’n agos at Eryri, traethau Llŷn a Môn, a Llwybr Arfordir Cymru, rydyn ni’n boblogaidd gyda cherddwyr, teuluoedd, pobl sy’n chwilio am antur ac rydyn ni’n falch iawn o roi croeso i gŵn hefyd.
Beth bynnag fo’r rheswm dros eich ymweliad, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu. Rydyn ni’n agored o 11am tan yn hwyr, gyda bwyd yn cael ei weini o 12 hanner dydd ymlaen. Archebwch fwrdd i’ch grŵp neu beth am fwynhau pryd rhamantus, gyda golygfeydd dros y Fenai, y Gogarth a thraeth dwyreiniol Llandudno, neu Fae Ceredigion a Chastell Cricieth.