Amwynderau
Llety
Bwyd
Parcio
Cyfeillgar i gŵn
Mae Coes Faen Spa Lodge yn cynnig llety moethus, gyda baddon poeth, yng nghanol de Eryri. Mae gennym ni le trawiadol i aros, a bwyty bwyd cain, gyda golygfeydd dros Aber Mawddach a mynyddoedd Cymru.
Mae gan bob un o’n chwe ystafell wely apêl unigryw, ond mae gan bob un ohonyn nhw gyfleusterau ystafell ymolchi sba a mwynderau a fydd yn eich galluogi chi i ymlacio. Mae ystafell hygyrch yma, sy’n addas ar gyfer gwesteion llai abl i symud yn rhwydd ac ystafell sy’n addas i gŵn. Gellir hefyd archebu ein safle cyfan ar gyfer grwpiau mawr.
Mae ein bwyty, o’r enw Môr, yn enwog yn y Bermo, ac mae’n lle cartrefol a chyfoes i fwynhau bwydydd gwych; prydau wedi eu hysbrydoli gan ardal Toscana yn yr Eidal drwy ddefnyddio’r cynnyrch gorau o Gymru.
Rydyn ni’n lleoliad perffaith i ymlacio mewn lle tawel ar ôl diwrnod o archwilio, pa un ai a ydych chi’n chwilio am daith gerdded hamddenol ar hyd llwybrau yn ardal y Bermo, wedi ymweld â’r cestyll lleol neu wedi mwynhau archwilio atyniadau treftadaeth Cymru, fel rheilffordd stêm Tal-y-llyn gerllaw.
I’r rhai sy’n chwilio am antur llawn adrenalin, mae llwybrau beicio yng Nghoed y Brenin, syrffio ym Mharc Antur Eryri, dringo creigiau a chanŵio o fewn pellter cerdded, neu gallech chi roi cynnig ar y wifren wib gyflymaf yn y byd yn Zip World.